Suella Braverman

Oddi ar Wicipedia
Suella Braverman
GanwydSue-Ellen Cassiana Fernandes Edit this on Wikidata
3 Ebrill 1980 Edit this on Wikidata
Harrow Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethbargyfreithiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Parliamentary Under-Secretary of State for Exiting the European Union, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Twrnai Cyffredinol Lloegr a Chymru, Twrnai Cyffredinol Lloegr a Chymru, Ysgrifennydd Cartref, Ysgrifennydd Cartref Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.suellabraverman.co.uk/ Edit this on Wikidata

Gwleidydd a bargyfreithiwr Prydeinig yw Sue-Ellen Cassiana " Suella " Braverman QC AS (ganed Fernandes; ganwyd 3 Ebrill 1980). Bu'n Ysgrifennydd Cartref o 6 Medi 2022 i 19 Hydref 2022, ac eto o 25 Hydref 2022 i 13 Tachwedd 2023. Roedd hefyd yn Dwrnai Cyffredinol Cymru a Lloegr rhwng 2020 a March 2021 ac o Fedi 2021 i 2022. Mae hi wedi bod yn Aelod Seneddol (AS) dros Fareham ers 2015.[1]

Mae Braverman yn aelod o’r Blaid Geidwadol. Bu’n gadeirydd y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd rhwng 19 Mehefin 2017 a 9 Ionawr 2018. Rhoddwyd "QC" iddi ar ôl ei phenodiad fel Twrnai Cyffredinol Cymru a Lloegr ac Adfocad Cyffredinol Gogledd Iwerddon ym mis Chwefror 2020, ar ôl peidio â “ chymeryd sidan ” ymlaen llaw [2].[3]

Cafodd Braverman ei geni yn Harrow, Llundain Fwyaf, a'i magu yn Wembley[4] yn ferch i Christie ac Uma Fernandes, o dras Indiaidd,[5] [6] a oedd wedi ymfudo i Brydain yn y 1960au o Kenya a Mauritius .

Cafodd Braverman ei addysg yn Ysgol Gynradd Uxendon Manor yn Brent a'r Ysgol preifat Heathfield, Pinner [4][7] Darllenodd y gyfraith yng Ngholeg y Breninesau, Caergrawnt.

Yn 2022 bu'n ymgeisydd aflwyddiannus yn yr etholiad ar gyfer arweinydd newydd y blaid Geidwadol.[8] Penodwyd Braverman yn Ysgrifennydd Cartref gan Liz Truss[9] ond ymddiswyddodd ar ôl chwe wythnos.[10]

Ar 13 Tachwedd 2023, diswyddwyd Braverman o'i swydd fel Ysgrifennydd Cartref gan y prif weinidog Rishi Sunak. Roedd hi wedi ysgrifennu erthygl papur newydd oedd i'w gweld yn tanseilio'r heddlu.[11][12]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Syal, Rajeev; editor, Rajeev Syal Home affairs (2022-10-25). "Outcry over Suella Braverman's return as home secretary". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2023-11-13.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  2. Joshua Rozenberg QC (November 2020). "Silk but no silken tongue". The Critic (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Mehefin 2022. Cyrchwyd 12 Mehefin 2022.
  3. Joshua Rozenberg (17 February 2020). "Jury's out for the new attorney general". The Critic. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Ebrill 2021. Cyrchwyd 13 Mehefin 2022.
  4. 4.0 4.1 "About Suella" (yn Saesneg). Suella Braverman. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mawrth 2022. Cyrchwyd 8 Ebrill 2017.
  5. "Supplement on Suella Fernandes". Goan Voice UK (yn Saesneg). 2003–2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mawrth 2022. Cyrchwyd 11 Chwefror 2018.
  6. Brogan, Benedict (14 Gorffennaf 2003). "Supplement on Uma Fernandes". Goan Voice UK (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mawrth 2022. Cyrchwyd 11 Chwefror 2018.
  7. McGauran, Ann (2 Gorffennaf 2015). "Who's on the new education select committee?". Schools Week (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Gorffennaf 2016. Cyrchwyd 8 Ebrill 2017.
  8. Joshua King (14 Gorffennaf 2022). "Conservative Leadership: Suella Braverman eliminated as Tory Prime Minister contenders whittled down to five". The Scotsman (yn Saesneg).
  9. Morris, Seren (6 Medi 2022). "Who is Suella Braverman? Leadership rival tipped for Home Secretary". Evening Standard (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Medi 2022.
  10. "Suella Braverman to depart as Home Secretary after just six weeks in the job". ITV News (yn Saesneg). 19 Hydref 2022. Cyrchwyd 19 Hydref 2022.
  11. Peter Walker (13 Tachwedd 2023). "Suella Braverman sacked as home secretary after article criticising police". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Tachwedd 2023.
  12. "Suella Braverman wedi'i diswyddo: "Beth gymerodd mor hir?"". Golwg360. 2023-11-13. Cyrchwyd 2023-11-13.