Sudd
Oddi ar Wicipedia
Sudd yw'r hylif sydd i'w gael yn naturiol mewn ffrwyth neu ran arall o blanhigyn. Fel rheol, fe'i ceir trwy falu neu wasgu ffrwythau, heb ddefnyddio gwres. Y math mwyaf adnabyddus, efallai, yw sudd oren.
Gwerthir nifer fawr o wahanol fathau o sudd yn fasnachol; heblaw oren, ceir sudd afal, grawnwin, mango a llawer o ffrwythau eraill; mae cyfuniadau o sudd gwahanol ffrwythau hefyd yn boblogaidd. Defnyddir sudd hefyd mewn diodydd fel smwythyn.