Subway

Oddi ar Wicipedia
Y logo.
Subway
Enghraifft o'r canlynolcadwyn o dai bwydydd parod, menter Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu28 Awst 1965 Edit this on Wikidata
SylfaenyddFred DeLuca, Peter Buck Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolcwmni preifat Edit this on Wikidata
Cynnyrchbrechdan, salad Edit this on Wikidata
PencadlysMilford, Connecticut Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://subway.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Subway yn gadwyn bwytai rhyngwladol sy'n gwerthu brechdanau yn bennaf. Fe'i hagorwyd fel "Pete's Super Submarines"[1] yn Bridgeport, Connecticut, UDA, ym 1965 ac agorodd ei ail leoliad ym 1974, hefyd yn Connecticut. Ers hynny mae wedi ehangu i ddod yn fasnachfraint fyd-eang.

Nid cwmni Subway sy'n berchen ar y bwytai, yn hytrach, mae'n defnyddio systemmasnachfraint, gyda chwmnïau llai yn berchen ar fwytai unigol.

Cynhwysion dadleuol[golygu | golygu cod]

Canfu llys yn Iwerddon mai nid "bara" yw'r hyn a geir mewn brechdanau Subway, oherwydd ei fod yn cynnwys hyd at 10% siwgr.[2] Yn 2021, aethpwyd â Subway i'r llys gan ymgyrchwyr oedd yn honni nad oedd tiwna i'w gael yn eu brechdanau "tiwna" - ymatebodd Subway gan greu gwefan arbennig o'r enw Subway Tuna Facts[3].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "'It's just not what people want anymore': Subway to close hundreds of U.S. stores". The Washington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Ebrill 2018. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2020.
  2. "Sandwiches in Subway 'too sugary to meet legal definition of being bread'". independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-10-31.
  3. "Subway Tuna Is 100% REAL Wild-Caught Tuna". subwaytunafacts.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-10-31.
Eginyn erthygl sydd uchod am fwyd cyflym. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.