Sosialaeth urdd

Oddi ar Wicipedia

Mudiad sosialaidd sydd yn pleidio rheolaeth y gweithwyr a democratiaeth ddiwydiannol ddatganoledig yw sosialaeth urdd[1] a flodeuai yn y Deyrnas Unedig yn nechrau'r 20g. Mae ei syniadaeth yn seiliedig ar fodel yr urdd grefft ganoloesol, ac yn rhagweld cyfundrefn o urddau cenedlaethol yn gweithredu dan gytundeb â'r cyhoedd.

Y traethiadau cyntaf o athrawiaeth sosialaeth urdd oedd The Restoration of the Gild System (1906) gan Arthur Joseph Penty ac erthygl gan Alfred Richard Orage yn y Contemporary Review. Ymhelaethwyd ar ddamcaniaeth y mudiad yn y cylchgrawn The New Age, a olygwyd gan Orage. Cyhoeddwyd datganiad llawn o'r athrawiaeth gan Samuel George Hobson, dan y teitl "National Guilds", mewn penodau yn The New Age ym 1912–13. Trosglwyddwyd fflam yr achos i do newydd o sosialwyr, megis G. D. H. Cole, yn nhudalennau'r Daily Herald, ac ym 1915 sefydlwyd y National Guilds League i drefnu'r mudiad.[2]

Adfywiwyd sosialaeth urdd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gan dwf mudiad y siop-stiwardiaid, a alwodd am reolaeth y gweithwyr yn y diwydiannau a oedd yn hanfodol i'r ymdrech ryfel. Wedi'r rhyfel, dan arweiniad Hobson a Malcolm Sparkes, sefydlwyd urddau gan yr adeiladwyr, a fyddai'n adeiladu tai ar gyfer y llywodraeth. Yn sgil y dirwasgiad economaidd ym 1920–21, tynnwyd cefnogaeth ariannol y wladwriaeth oddi ar yr urddau a chwympodd y mudiad. Daeth y National Guilds League i ben ym 1925.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi, guild1 > guild socialism.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Guild Socialism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Hydref 2021.