Sgwrs Wicipedia:Consensws

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

"Ni all consensws ymysg grŵp bychan o olygwyr, mewn man penodol ar amser penodol, danseilio consensws cymunedol ar raddfa ehangach. Er enghraifft, ni all cyfrannwyr mewn WiciBroject benderfynu fod rhyw bolisi a dderbynir yn gyffredinol yn amherthnasol i erthygl benodol, oni bai eu bod yn medru argyhoeddi'r gymuned ehangach fod gweithred o'r fath yn gywir."

Rwy'n dyfalu eich bod chi wedi cyfieithu'r dudalen Saesneg. Dwi ddim yn meddwl ei fod yn gwneud synnwyr yng nghyd-destun y wici Cymraeg ar hyn o bryd, yn anffodus. Dy'r "gymuned ehangach" ddim yn cynnwys llawer mwy na thri dyn a'u ci. Efallai mae'r "grŵp bychan" yn un sy'n gadael allan y ci. Luke 21:23, 4 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]