Sgwrs Nodyn:Rheoli awdurdod

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

@Llywelyn2000, Dafyddt:

Helo. Oes modd cael bach o gymorth os gwelwch yn dda. Dw'i wedi sylwi bod rhai o'r lincs i'r Bywgraffiadur o'r templed Rheoli awdurdod dim yn gweithio. Allet ti esbonio sut mae hyn yn gweithio. Mae'n edrych i mi fod y data yn dod o'r Id's Wikidata ond gyda sgript fach sydd yn newid S i C yn y URL er mwyn cael yr erthygl Cymraeg. Ydy hyn yn gywir?

Y problem yw, ambel waith, mae'r URLS yn gwahanol yn Cymraeg a Saesneg. Er engraifft dyma'r URL's i'r erthygl am ELIZABETH JANE LOUIS JONES:

CY: https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-JONE-LOU-1889
EN: https://biography.wales/article/s2-JONE-LOU-1889

Mae'r linc Awdurdod ar yr erthygl Wici yn ceisio cyfeirio pobl i https://bywgraffiadur.cymru/article/c2-JONE-LOU-1889 sydd yn achosi gwall.

Erbyn hyn mae gen i rhestr o'r holl url's Cymraeg a Saesneg - a bydd e'n gwych ffindio datrysiad i'r problem yma.

Diolch Jason.nlw (sgwrs) 09:59, 16 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]

Mae'n edrych yn broblem achos fod y rhifau (cyfres?) yn wahanol yn Gymraeg a Saesneg - s2 a c4. Dim syniad pam bo nhw'n wahanol - na fydde y ddau yn cael eu cyhoeddi yr un pryd? Un ateb posib fyddai ychwanegu dau eitem yn Wikidata, un gyda qualifier Cymraeg ac un Saesneg, a wedyn addasu y modiwl i chwilio am yr iaith benodol os yw hynny'n bosib. Dwi ddim yn gwybod sut aeth y codau i Wikidata fewn yn wreiddiol ond byddai angen bot i'w diweddaru nhw gyd! Falle nid hynny yw'r ateb taclusaf. Mae'n bosib fod yr ateb gorau ar ochr gwefan y Bywgraffiadur h.y. cysoni y rhifau rhwng CY/EN. Mae'n debyg fod y rhifau yr un fath rhwng y ddwy iaith yn y mwyafrif o erthyglau. --Dafyddt (sgwrs) 11:54, 16 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]
Ye - dw'i methu meddwl am ffordd lân o ychwanegu ail I.D. i Wikidata. Dwi ddim yn siŵr pam bod rhai yn wahanol yn y 2 iaith ond mi wna'i chodi hyn yn ein cyfarfod pwyllgor Bywgraffiadur mewnol nesaf i weld os oes modd glanhau'r id's ar y wefan. Os yw hynny'n methu mi wna’i meddwl eto am ffordd o gael y lincs Cymraeg mewn i Wikidata mewn ffordd sy'n gwneud synnwyr. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 15:04, 16 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]