Sgwrs Nodyn:Football player national team statistics

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Cyfieithu neu ei ddileu?[golygu cod]

Mae'r nodyn yma'n cael ei ddefnyddio ar ddau erthygl yn unig (Ryan Giggs a John Hartson). Fel y mae, tydy o ddim llawer o werth gan bod y dolenni i gyd yn pwyntio at teitlau Saesneg erthyglau. Dwi wedi dechrau trio ei drosi drwy defnyddio cyfuniad o 'Find and Replace ar Word a Google Translate. Mae'n mynd i fod yn fwy o sdrach na'r disgwyl gan fod Google Translate yn gwneud job iawn o gyfieithu enwau'r gwledydd ond dydy o ddim wedi meistrioli'r gystrawen, felly beth sydd gyda fi yw:

| AUS = [[Awstralia Tîm Pêl-droed Cenedlaethol | Awstralia Tîm Cenedlaethol]]

Felly, cyn i mi fynd i'r hasl o newid hyn i gyd â llaw (ar gyfer 200+ o wledydd?), oes wir angen y nodyn yma? Os defnyddir Nodyn:Gwybodlen Pêl-droedwyr mae maes ymddangosiadau/goliau rhyngwladol yn hwnnw.

Un datrysiad arall wrth gwrs yw ailgyferio pob erthygl o'r teitl Saesneg. --Rhyswynne (sgwrs) 08:43, 1 Hydref 2014 (UTC)[ateb]