Sgwrs Nodyn:Dim-troednodiadau

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

A oes modd edrych ar eiriad y nodyn hwn? Dw i ddim yn deall beth yw ystyr mae angen dyfyniadau mewn llinell arni... Onid cyfeiriadau yw rhain? Os taw cyfeiriadau ydynt, mae'n gwrthddweud dechrau'r frawddeg... Pwyll 18:47, 6 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Yn ôl y nodyn Saesneg, inline citations a olygir. Beth am gael 'cyfeiriadau unigol'? Buasai'n gwneud mwy o synnwyr gyda "rhestr o ffynonellau" yn y rhan gyntaf yn lle "...cyfeiriadau". Anatiomaros 21:20, 6 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
"Mewn llinell" yw awgrymiad Cysgeir. Mae'r dyfyniadau (citations) sy'n dod ar ôl honiad yn wahanol i'r cyfeiriadau. Ond wi'n meddwl y dylai fynd fel hyn: dylai'r nodyn {{Cyfeiriadau}} ddod o dan == Ffynonellau ==, ac wedyn rhestr o'r deunydd darllen a gyfeiriwyd atynt o dan == Cyfeiriadau ==. Efallai fy mod yn anghywir.... -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 21:48, 6 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Wel, mae'n hollti blew efallai, ond prif ystyr 'dyfyniad' ydy "testun a ddyfynir", h.y. "quotation". 'Cyfeiriad' = "reference"/"citation". Ffynhonnell = "source" (h.y. yr hyn y cyfeirir ato yn y 'cyfeiriad' neu a ddefnyddir fel ffynhonell am yr erthygl yn gyffredinol). Anatiomaros 21:57, 6 Hydref 2010 (UTC)[ateb]