Sgwrs Categori:Califfornia

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Calif[f]ornia[golygu cod]

Mae angen cysoni hyn a'r isgategoriau rywbryd. Yn gam neu'n gymwys, California ydy enw'r erthygl. Ond mae'n golygu hanner awr o waith efallai a dwi ddim eisiau gwneud hynny rwan rhag ofn fod 'na wrthwynebiad. Anatiomaros 19:37, 20 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Mi ro i gynnig arni, ai California neu Califfornia sydd well gen ti? Thaf 19:46, 20 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Diolch am y cynnig, Thaf. Dwi'n meddwl ei bod yn well aros i weld be mae pobl eraill yn meddwl, yn gyntaf? Yn reddfol, mae'n well gennyf 'Califfornia', ond byddai rhai yn anghytuno efallai. Mae 'na fymryn o drafodaeth o beth amser yn ôl ar Sgwrs:California. Mae'n rhan o ddadl ehangach hefyd, e.e. Mecsico/Mexico. Ond beth bynnag ydy'r dewis rhaid i'r categoriau a'r erthygl fod dan yr un enw, wrth gwrs. Does dim brys mawr ond mae angen wneud o rywbryd. Anatiomaros 20:01, 20 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]