Sgwrs:Ynni adnewyddadwy

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mae rhai ffeithiau anghywir yn y paragraff am "Ynni Atomig". Nid oes a wnelo "fusion" na "fission" ddim oll ag electronau - prosesau yn ymwneud â'r niwclews ydynt (sef gwahaniaeth sylfaenol rhwng Ffiseg a Chemeg). Mae'r erthygl benodol ei hun yn ffeithiol gywir, er bod llai o wybodaeth ynddi. Eisingrug 12:43, 10 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Rwyt ti'n iawn. A'r cwestiwn ddylid ei ofyn yma ydy i ba raddau mae'r ddwy broses yn adnewyddadwy. Llywelyn2000 14:14, 10 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Diolch am dy ymateb. Mae uniad niwclear yn adnewyddadwy mewn theori gan fod hydrogen, i bob pwrpas, yn elfen ddi-ben-draw. Serch hynny, ar hyn o bryd, mae'r broses o gyrraedd y tymereddau mewn Tokamak yn defnyddio mwy o egni na'r allbwn!

O ran ymholltiad, ail-eirio paragraff a fodolasai am y pwnc 'wnes i, gan ehangu arno fymryn, felly credaf ei bod yn deg gofyn y cwestiwn a yw'n ddull cynaliadwy. Yn fy marn bersonol i, mae'n ddull anadnewyddadwy, ond mater o farn ydyw mewn gwirionedd gan ei fod yn bwnc dadleuol ac amwys dros ben. Eisingrug 14:21, 10 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Y ffordd i newid enw erthygl[golygu cod]

[Copïwyd o'r hen dudalen ailgyfeirio Egni adnewyddadwy a drowyd yn erthygl yn lle symud hyn]

Llywelyn, beth bynnag ydy'r ddadl rhwng defnyddio egni neu ynni, nid dyma'r ffordd i newid enw erthygl. Trwy gopïo'r testun i'r dudalen yma, nad oedd ond yn dudalen ailgyfeirio cyn hynny, collir holl hanes testunol yr erthygl. Er mwyn cadw'r hanes hwnnw, sy'n hanfodol, a lle bo ailgyfeiriad yn rhwystro'r symud, fel yn yr achos yma, y peth arferol i'w wneud ydy dileu'r ailgyfeiriad anghyfleus (sef hyn) ac wedyn symud yr erthygl dan sylw (sef Ynni adnewyddadwy) i'r enw newydd (Egni adnewyddadwy). Fel yna cedwir manylion hanes y testun gwreiddiol yn ddiogel. Os ydy'r testun sydd yma rwan yn wahanol i'r hen un dwi'n awgrymu ei gopïo i'r hen erthygl - h.y. adfer honno gyda dy newidiadau i'r testun, gwagio y dudalen yma a'i dileu. Wedyn symud y dudalen gwreiddiol. Dyna'r ffordd arferol ar bob argraffiad wicipedia; dydym ni byth yn copïo testun i le newydd (neu dudalen ailgyfeirio). (Mae'r opsiwn i ddileu tudalen sy'n bodoli eisoes er mwyn symud tudalen i enw newydd yn cael ei gynnig wrth geisio gwneud hynny - a dyna'r ffordd hawsaf - ond mae'n rhy hwyr yn yr achos yma gan dy fod wedi newid y testun ar ôl ei gopïo.) Anatiomaros 23:00, 10 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]