Sgwrs:Y Pâl

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Y rhanbarth Seisnig neu Y Pâl?[golygu cod]

Y Pâl yw'r Gymraeg am Saesneg pale yn yr ystyr hwn yn ôl Geiriadur y Brifysgol (dan pâl2). Dwi o blaid newid teitl yr erthygl i Y Pâl. Dyw Y rhanbarth Seisnig ddim yn derm sefydlog ar ei gyfer. Daffy 14:31, 27 Awst 2007 (UTC)[ateb]

Cytunaf ag awgrym Daffy. Dydi'r term "Y Rhanbarth Seisnig", er yn ddisgrifiad digon teg, ddim yn gyfarwydd o gwbl. Does gennyf ddim llyfrau Cymraeg ar hanes Iwerddon, yn anffodus (oes 'na un yn bod?), ond fedra' i ddim coifio gweld y term "The English Region" nac unrhyw beth tebyg yn Saesneg. 'Y Pâl' yw'r enw arferol a dyna a geir, yn ei ffurfiau brodorol, yn nheitlau'r erthyglau ar y wicipedias eraill hefyd. Dwi'n awgrymu ei symud felly. Anatiomaros 20:28, 27 Awst 2007 (UTC)[ateb]
Cytuno Dyfrig 23:57, 27 Awst 2007 (UTC)[ateb]
Wedi symud y dudalen i Y Pâl. —Adam (sgwrscyfraniadau) 09:41, 15 Medi 2007 (UTC)[ateb]