Sgwrs:Sunni

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Cymreigiad?[golygu cod]

Ydym ni am Gymreigio hyn? Ac os ydym, pa sillafiad: Swni 'ta Swnni? Anatiomaros 22:23, 1 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

O chwilio'n sydyn ar Google, alla i ddim ond cael hyd i un enghraifft o "Swni" a dim o "Swnni". "Sunnĩ" sydd gan Cyril Williams yn Crefyddau'r Dwyrain. Fe fusasn i'n ei adael fel y mae rwy'n meddwl. Rhion 07:02, 2 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Diolch am dy ymateb, Rhion. Ei adael o fel y mae ydy'r peth gorau, efallai. Piti does dim modd cael enwau mewn llythrennau italig yn enwau erthyglau.
Oes gen ti unrhyw gynnig am Druze? 'Druziaid' sy gan Cyril Williams mewn cyfeiriad un llinell sy'n osgoi'r broblem o sut i wahaniaethu rhwng y bobl a'u crefydd (yn wir, mae'n anwybyddu'r Drusiaid yn gyfangwbl i bob pwrpas!). 'Drusiad' (a 'Drusiaid') sydd yn GPC ond does dim cynnig ganddynt am y grefydd/enwad ei hun, sy'n anhygoel braidd. Beth am 'Drus' am yr enwad felly? Dwi am greu erthygl a bydd angen dau gategori hefyd; dyna pam dwi'n gofyn. Anatiomaros 16:47, 2 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Anodd braidd - mae'n un o'r sefyllfaoedd lle mae pob un i'w weld braidd yn anfoddhaol. Mae'n debyg bod "Drus" am yr enwad cystal a dim (ac yn well na "Drws"!). Rhion 18:14, 2 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]