Sgwrs:Pŵer

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Enw'r erthygl[golygu cod]

"Electronic power" (pŵer electronig) yw'r erthygl cysylltu en. Wrth deipio "power" i mewn i en, fe gawn dudalen gwahaniaethu. Ddylwn wneud yr un, sef creu tudalen gwahaniaethu o'r tudalen 'ma, a chreu erthygl newydd dan yr enw "Pŵer electronig"? -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 15:25, 8 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Dwi'n cytuno. Ceir sawl math o bŵer, fel rwyt ti'n deud. Symud hyn i Pŵer trydan/trydanol (termau!) a throi'r ailgyfeiriad yn dudalen gwahaniaethu. Ond dwi ddim yn siwr am y term cywir am hyn. Anatiomaros 18:26, 8 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Beth am "Pŵer trydan" fel yr enw en? Ni fydda i'n awgrymu defnyddio "Pŵer trydanol" oherwydd "electrical" yw ystyr go iawn am "trydanol"? Oes oedd enw'r erthygl yn "Electrical power / Pŵer trydanol" wedyn iawn . . . . . -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 21:03, 8 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Pŵer trydan amdani felly. Dwi'n drysu weithiau rhwng 'pŵer' ac 'ynni' ond mae cyfeiriad at ynni trydan yn yr erthygl felly dwi'n derbyn mai am y ffordd mae ynni trydan yn cael ei drosgwlyddo a'i ddefnyddio mae hyn? Gwell aros i gael barn eraill efallai, ond mae'n swnio'n iawn i mi. Anatiomaros 21:13, 8 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Cytuno. Llywelyn2000 21:19, 8 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Cytuno. Ac mae'n dda i glywed bod pobl iaith gyntaf hefyd yn drygu gyda geiriau weithiau, hehe! Beth am inni aros nes Ysgol Dinas Bran ddweud ei dweud, gan mai hi a greodd yr erthygl yn y lle gwreiddiol. Ydy rhywun am osod sylw ar ei thudalen sgwrs? -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 21:24, 8 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Syniad da. Does dim brys beth bynnag. Ac ie, dwi'n drysu yn Saesneg hefyd (power/energy) fel mae llawer o bobl. Anatiomaros 21:28, 8 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Diolch. Os ydy gwres canol yn gywir, ac y mae, yna mae pwer trydan yn gywir hy pwer (sy'n dod o / drwy drydan. (Ond fedra i ddim mo'i ffindia yn un o lyfrau CBAC! Ysgol Dinas Bran 12:00, 9 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]