Sgwrs:Kahramanmaraş (talaith)

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mae'r map cyfoes yn edrych yn hynod lwydaidd! Cymharer gyda'r gymar ar Wiki. Llywelyn2000 19:07, 12 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Ydy, mae o braidd. Ar hyn o bryd dydy'r gyfres honno - gyda'r mapiau mwy lliwgar - ddim yn gyflawn eto. Dim ond 26 o'r 82 talaith. Dyna pam dwi wedi defnyddio'r "gyfres lwydaidd", er mwyn arbed amser wrth gopio a phastio i greu'r ethyglau. Ond croeso i ti roi'r rhai gwell i mewn: dyma nhw. Anatiomaros 19:21, 12 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
ON Penderfynu cael saib a throi'r teledu ymlaen jest mewn pryd i weld UDA yn sgorio yn erbyn Lloegr! Byth yn meddwl baswn i'n cefnogi'r hen Iw-Es-of-Ei... Anatiomaros 19:21, 12 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Wedi newid pob un oedd ar gael yn y categori. Anatiomaros 19:34, 12 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Ti'n symud fel y gwynt ei hun! UDA a LL: llathan o'r un brethyn! Llywelyn2000 21:22, 12 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Diolch, ac ia, maen nhw, yn hollol! Gyda llaw, mae'n ymddangos mai diffyg categoreiddio gan rywun ar Gomin sydd ar fai am y ffaith mai dim ond 26 o fapiau sydd yn y categori a bod y lleill ar gael, gan dy fod wedi canfod yr un "coll" am dalaith Agri ar en. Defnyddiaf y rhai lliw o hyn ymlaen felly. Anatiomaros 22:58, 12 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]