Sgwrs:James Bulger

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Rydw i wedi gorffen nawr, felly os mae rhwyun eisiau cywiro fy Gymraeg, fydda "edit conflict" ddim gyda chi. Diolch. Dysgwr 18:05, 3 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Ga i awgrymu dileu'r erthygl hon? Er gwaethaf ymdrechion Rhodri77 i wella safon iaith yr erthygl, mae hi'n ymddangos o hyd mai erthygl a ysgrifennwyd gan ddysgwr ydy hi. (Dysgwr ydw i hefyd, ond does dim rhaid i ni dderbyn erthyglau ag iaith mor sylfaenol.) Rhaid bod rhyw lefel isaf sy'n dderbyniol, on'd ydy? Dwi'n siŵr y bydd un o'r defnyddwyr bendigedig sy'n ymfalchïo am eu galluoedd i fynegi eu hunain yn ddiplomatig yn medru dod o hyd i ffurf o eiriau er mwyn esbonio'r rheswm am ei dileu nad yw'n mynd i frifo teimladau'r dysgwr. Diolch byth. Y ddraig felen 22:19, 3 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Dwi di ceisio gwella'r iaith ymhellach, does dim angen ei dileu. --Adam (Sgwrs) 01:59, 4 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Gwaith ardderchog, Adam. Diolch yn fawr am eich cymorth. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Y ddraig felen (sgwrscyfraniadau) 04:06, 4 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Gan fod y dyddiad 12 Chwefror yn cael ei gyfeirio ato mewn ffynonellau hŷn, dwi ddim yn credu fod angen yr holl gyfeiriadau na'r dyddiad 13 Chwefror yma, yn enwedig ddim yn yr wybodlen (edrych yn fler braidd!). Gwell falle rhoi nodyn ar waelod yr ethygl yn nodi 13 Chwefror a'r rheswm am beidio ei nodi ar dop yr erthygl? Thaf 13:58, 4 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Iawn. Gwnewch be sy'n well gennych. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Y ddraig felen (sgwrscyfraniadau) 15:31, 4 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]