Sgwrs:Ieitheg

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Ieitheg a ieithyddiaeth gymharol[golygu cod]

Ystyr ieitheg yw 'comparative philology'. Dyna beth a ddisgrifiwyd ar y dudalen yn y lle cyntaf. Term arall ar gyfer 'comparative philology' (yn yr Unol Daleithiau gan fwyaf) yw 'comparative linguistics'. Felly yr un peth yw ieitheg a ieithyddiaeth gymharol. Dylid ailgyfeirio o ieithyddiaeth gymharol i ieitheg gan ddiffinio ieitheg fel a geir ar y dudalen ieithyddiaeth gymharol ar hyn o bryd. Gweler, er enghraifft, y diffiniad o ieitheg yn Ngeiriadur y Brifysgol fel 'gwyddor iaith (yn enwedig o safbwynt hanesyddol a chymharol)'. Mae'n well trafod newidiadau fel hyn ar dudalennau sgwrs cyn gwneud newidiadau di-enw ac unochrog. Daffy 16:04, 1 Hydref 2007 (UTC)[ateb]