Sgwrs:Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Nagyw GIG yn sefyll am "Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol?"

Rhys Thomas 08:04, 25 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Dyna beth oeddwn i'n ei gredu hefyd, ond os chwilia di am esiamplau o'r ddau derm, mae digonedd iw gael o'r ddwy ffurf ar wefanau swyddogol. Mae'n ymddangos nad yw'r llywodraeth na'r cyrff cyhoeddus yn gallu cytuno ymysg eu hunain hyd yn oed... Thaf 09:52, 26 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Gair gwrywaidd yw "gwasanaeth"; felly mae Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol [sic] yn ffurflen amhosib. -- Jac-y-do 07:31, 13 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Rwyt ti yn llygad dy le, Jac-y-do. Mae'r dryswch yn codi achos Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ydyw'r enw Cymraeg swyddogol ond yn Saesneg yr enw yw National... etc ac felly mae rhai pobl yn meddwl fod 'GIG' yn gyfieithiad llythrennol o'r enw Saesneg = "Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol" (GIG). Ond "GIC", nid GIG, fyddai'r enw Cymraeg pe bai hynny'n wir, wrth gwrs! Anatiomaros 18:33, 13 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]