Sgwrs:Guyane

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Defnyddio'r enw Ffrangeg[golygu cod]

Rydw i wedi symud yr erthygl hon o "Guiana Ffrengig" i "Guyane". Ffurf Saesneg yw Guiana, sy'n anghyson â'n defnydd o Gaiana. Gan nad yw'n wlad annibynnol, ond yn département o Ffrainc, nid yw'r polisi ar Gymreigio enwau gwledydd yn briodol, a chredaf ei fod yn well cadw'r enw Ffrangeg yn yr un modd â'r holl départements eraill. Mae hyn yn golygu hefyd nad oes rhaid inni ddefnyddio'r enw ychwanegol "Ffrengig". —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 13:09, 20 Ebrill 2019 (UTC)[ateb]