Sgwrs:Gramadegau Cerdd Dafod

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dosbarth Edeyrn Dafod Aur[golygu cod]

Dywedir yma:

"Ychydig iawn a wyddys am y gramadeg hwn. Ceir cyfeiriadau ato yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr ond llurguniwyd yr enw gan waith John Williams (Ab Ithel) a Iolo Morganwg pan gyhoeddwyd y testun gwallus Dosparth Edeyrn Davod Aur gan y Welsh Manuscripts Society ym 1856. Ni ellir dyddio'r gramadeg hwn yn sicr gan nad oes copi ohono a ysgrifennwyd cyn y bymthegfed ganrif wedi goroesi."

Dydy hynny ddim yn hollol gywir. Ceir ambell gyfeiriad at ryw "Ede[y]rn (Dafod Aur)" yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr ond nid at lyfr gramadeg o'r enw "Dosbarth Edeyrn Dafod Aur". Hyd y gwyddys, mae'r enw hwnnw yn perthyn i gyfnod Iolo ac Ab Ithel a chyhoeddi "Dosbarth Edeyrn Davod Aur" (gweler Edeyrn Dafod Aur am grynodeb). Felly ni ellir dweud o gwbl fod "Dosbarth Edeyrn Dafod Aur" yn llyfr gramadeg o'r 13eg ganrif, er ei fod yn bosibl fod rhywun o'r enw Ede[y]rn yn awdur llyfr gramadeg cynnar. Mae'r enw ei hun ("Dosbarth...") yn un o ffugiadau Iolo a does dim cysylltiad o gwbl rhwng testun yr WMS ac Edern. Anatiomaros 16:27, 25 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Diolch am dy gywiriad. Mae'n rhaid na ddeallais i'r brif erthygl yn iawn, a dwi'n ymddiheuro am fod yn ffeithiol anghywir. Fe geisiaf fireinio'r erthygl yn nes ymlaen heno a thrio ei gorffen.
Efallai y byddai'n well hepgor y rhan hon a chychwyn gydag Einion Offeiriad, ond cyfeirio at y ffugiad o dan "19eg ganrif". Os ydw i wedi anghofio ambell lyfr, plis cyfranna i'r erthygl. Diolch! Eisingrug 17:22, 25 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Dwi wedi gwneud ambell newid mân i'r testun i geisio egluro pethau'n well. Sdim rhaid i ti ymddiheuro o gwbl, mae'n erthygl wych. Mae'n werth sôn am Edern er prinned yw'r wybodaeth. Rhaid cofio hefyd bod ein gwybodaeth yn dibynnu ar y defnydd sydd wedi goroesi, yn destunau a chyfeiriadau gan y beirdd a ballu, a bod llawer o wybodaeth wedi diflannu, siwr o fod. Fel yn achos Cyfundrefn y Beirdd ei hun, darlun anghyflawn sy gennym o'r gramadegwyr cynnar a'u gwaith. Anatiomaros 18:41, 25 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]