Sgwrs:Grŵp brwydro cludydd awyrennau

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

teitl[golygu cod]

Jyst meddwl yn uchel - dydy 'Uned frwydro cludydd' ddim yn gweithio i mi, fel cyfieithiad am carrier battle group. Mi faswn i'n sticio efo 'grwp' i ddechrau arni, gan mai casgliad o longau yw e. Efallai fod closio'r ddau air (grwp + brwydr) drwy heiffen hefyd yn help? hy grwp-frwydro. Am wn i fod na wahanol fathau o grwpiau brwydro (battle groups); yn yr achos yma mae'r grwp yn perthyn i gwch o'r enw'r cludydd' (math o long). Mae 'grwp dawnsio Ann' yn gweithio, ond dydy 'grwp dawnsio ysgol' ddim - mae'n gweiddi am 'yr ysgol'. Dydy 'cludydd ddim wedi ennill ei blwyf yn y Gymraeg - does neb yn deall ei ystyr, ond mae 'Cludydd awyrennau' yn hollol ddealladwy. @Adda'r Yw: tybed ydy 'Grwp-frwydro cludydd awyrennau' yn welliant, neu'n beidio? Ond, be wn i! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:17, 19 Rhagfyr 2023 (UTC)[ateb]

Dewisais "uned frwydro" oherwydd ei fod yng Ngeiriadur yr Academi ("battle > battle-group"). Wrth ail-ystyried, mae ystyr battlegroup yn y lluoedd arfog Prydeinig ychydig yn wahanol i'r ystyr Americanaidd, ac fel arfer yn cyfeirio at drefniant o luoedd y fyddin yn hytrach na'r llynges, felly cytunaf i ddefnyddio "grŵp" yng nghyd-destun yr erthygl hon. Awgrymaf symud i "grŵp brwydro cludydd awyrennau" felly (a defnyddio "uned frwydro" am army battlegroup). —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 22:07, 19 Rhagfyr 2023 (UTC)[ateb]