Sgwrs:Gogledd Iwerddon

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

God Sêf Ddi Cwîn[golygu cod]

Hyd y gwn i does gan Ogledd Iwerddon ddim anthem genedlaethol - swyddogol neu fel arall. Dychmygwch yr ymateb yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon pe baent yn chwarae'r don hon ar achlysuron swyddogol! Dydy'r erthygl ar yr Anglopedia ddim yn rhoi "GSTQ" fel anthem Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn ddadleuol ac mae angen ei diwygio. Anatiomaros 13:51, 2 Medi 2009 (UTC)[ateb]

Yn ôl y wybodaeth ar en: mae ei statws fel anthem yn amwys (gweler en:Northern Ireland#Symbols used in Northern Ireland). Anatiomaros 13:56, 2 Medi 2009 (UTC)[ateb]
Cytuno; mae'n bwnc dadleuol ac fe ddylid ei ddileu o'r wybodlen. Gellid cyfeirio at y ddadl ynglyn ag anthem a baner yng nghorff yr erthygl. Rhion 16:38, 2 Medi 2009 (UTC)[ateb]
Dwi wedi tynnu'r cyfeiriad at GSTQ o'r wybodlen. Fel ti'n nodi, bydd angen adran yn y testun i esbonio'r sefyllfa. Anatiomaros 16:15, 4 Medi 2009 (UTC)[ateb]