Sgwrs:Euro

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

'Rwyf yn meddwl y buasai'n adlewyrchu'r iaith gyfredol yn well wneud yr erthygl hon yn "Ewro" - dyma'r ffurf fwyaf cyffredin yn Gymraeg hyd y gwelaf. Ar lafar clywir y ddau ynganiad "ewro" ac "iwro", ond 'does neb yn seinio'r enw fel yn 'euraid'. Cymharer problemau rhai ieithoedd eraill yn yr erthygl am broblemau ieithyddol yr Ewro yn y Wici Saesneg. Os nad oes gwrthwynebiad fe symuda i'r erthygl hon felly. Mae cryn waith i'w wneud ar y ramadeg ynddi hefyd - dw i'n fodlon trio helpu fanna hefyd.

Cytunaf. Ewro sy'n gywir yn Gymraeg (cf. Ewrop, Ewropeaidd, etc.). Yn swyddogol dwi'n meddwl mai dim ond Euro a'r sillafiad cyfatebol yn yr iaith Roeg sy'n cael ei dderbyn cyn belled ac mae'r arian yn y cwestiwn. Bydd rhaid ini aros nes bod Cymru'n aelod llawn o'r EU i weld Ewro ar yr arian a dogfennau: ond Ewro 'di o yn Gymraeg. Anatiomaros 20:24, 10 Medi 2006 (UTC)[ateb]
Mae Swyddfa'r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru yn defnyddio ewro yma. Awgrymaf y gwnawn ni eu dilyn. Daffy 00:05, 11 Medi 2006 (UTC)[ateb]

Os mae'n ddigon da i'r Comisiwn mae'n ddigon da i ni. Dwi'n symud yr erthygl i dudalen newydd, Ewro. Efallai fod tudalen gwahaniaethu rhwng Euro (Ewro) ac euro (gwaith eurydd) yn syniad da hefyd. Anatiomaros 14:55, 11 Medi 2006 (UTC)[ateb]

Roedd tudalen Ewro eisoes yn bod gyda ail-gyfeiriad at "Euro"! Dwi wedi dileu'r côd ail-gyfeirio gan adael y tudalen yn wag ar gyfer symud yr erthygl hon iddo trwy ei chopïo. Anatiomaros 15:04, 11 Medi 2006 (UTC)[ateb]