Sgwrs:Danu (duwies Wyddelig)

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

House Shadow Drake[golygu cod]

Ydy cael dolen i dudalen ar wefan grwp sy'n disgrifio ei hun fel "an Irish traditional household for seekers to the elder traditions of Witchcraft. More specifically, we are a welsh-Irish tradition with a little "w" and a big "I"." yn dderbyniol mewn erthygl fel hyn? Hyd y gwelaf i mae cynnwys y dudalen honno yn weddol gywir a ffeithiol, ar y cyfan (ond mae 'na "clangers" arni hefyd...), ac eto mae'r wefan ei hun yn cynnig golwg neo-baganaidd ar grefydd y Celtiaid. Dim byd o'i le mewn hynny ynddo ei hun, ond dwi ddim yn meddwl fod hynny'n dderbyniol yma. Rhaid bod 'na ddolenni academaidd, ffeithiol, a niwtral ar gael yn lle hyn? Anatiomaros 17:08, 10 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]