Sgwrs:Cyfeiriadedd rhywiol
Enw[golygu cod]
O'n i'n meddwl mai "tueddfryd rhywiol" yw "sexual orientation" yn Gymraeg? -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 00:15, 18 Gorffennaf 2010 (UTC)
- Mae 'tueddfryd' yn iawn a dyna buaswn i'n ddefnyddio hefyd, ond ymddengys mai 'cyfeiriadedd rhywiol' yw'r term a ddefnyddir heddiw (e.e. [1], [2], [3]). Gellid dadlau mai "inclination" yn hytrach nag "orientation" yw prif ystyr 'tueddfryd', ond dwi'n amau fod hyn yn enghraifft arall o ddefnyddio term "technegol" newydd anghyfarwydd yn lle hen air cyfarwydd, ysywaeth... Anatiomaros 00:35, 18 Gorffennaf 2010 (UTC)