Sgwrs:Amaeth

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Amaeth/Amaethyddiaeth[golygu cod]

Na fyddai amaethyddiaeth yn enw gwell am hon? Amaethyddiaeth yw'r gair rwy wastad wedi'i glywed, a dyna'r gair y mae'r termiadur yn defnyddio. Glanhawr 14:41, 19 Mai 2010 (UTC)[ateb]

Ar ôl chwilio rwan, mae'n ymddangos bod mwy o enghreifftiau o 'amaethyddiaeth' ar y we ond does dim byd o'i le o gwbl ar y gair 'amaeth' chwaith. Ceir enghreifftiau o'r ddau air ar wefannau swyddogol, er enghraifft "Polisi Cydlyniad ac Amaeth" (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru), "y Weinyddiaeth Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd" (Asiantaeth Safoni Bwyd) ac "amaethyddiaeth" (Llywodraeth C. Cymru). Yr unig wrthwynebiad sydd gennyf i symud yr erthygl yw'r ffaith bydd rhaid i rywun greu categori newydd wedyn - Categori:Amaethyddiaeth - a symud popeth sydd yn Categori:Amaeth i'r categori hwnnw. Anatiomaros 16:15, 19 Mai 2010 (UTC)[ateb]
Anghofiwn y peth te, dyw hi ddim yn werth y gwaith. ;-) Doni eirioed di gweld "amaeth" yn cael ei ddefnyddio felna o'r blaen dyna pam ofynnais i, ond os mae'n air safonedig man a man i ni gadw pethau fel y maen nhw. Glanhawr 02:15, 20 Mai 2010 (UTC)[ateb]