Setliadau strwythuredig

Oddi ar Wicipedia

Setliadau strwythuredig (Saesneg: structured settlement) yw cytundeb y bydd yr hawlydd ac yswiriwr y diffynnydd yn dod iddo, lle bydd taliadau digolledu yn cael eu gwneud ar ffurf taliad cychwynnol ar gyfer costau a threuliau ar ôl y ddamwain, Yna bydd rhandaliadau cyfnodol tebyg i gyflog rheolaidd yn cael eu gwneud yn hytrach na lwmp swm y gallai'r hawlydd ei afradu. Ni thelir treth ar y taliadau hyn, ond, fel quid pro quo i'r yswiriwr, bydd yr hawlydd yn cytuno i ddarparu disgownt ar y cyfanswm sydd i'w dalu (deg y cant fel arfer). Arloeswyd y trefniant hwn yng Ngogledd America.[1] yn dilyn setliadau am blant a effeithiwyd arnynt gan Thalidomide.[2]

Defnyddir y trefniant hwn yn aml mewn achosion yn ymwneud â chynnyrch neu niwed i berson. Fe'i defnyddir hefyd er mwyn lleihau costau cyfreithiol a chostau eraill drwy beidio a mynd i'r llys.[3] Daeth y trefniant hwn i'w anterth yn Unol Daleithiau America yn y 1970au yn hytrach na'r unig drefniant a oedd yn bodoli cyn hynny sef lwmp swm.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-30.
  2. Hindert, Daniel (1986). Structured Settlements and Periodic Payment Judgements. Efrog Newydd, NY: Law Journal Press. tt. 1–36. ISBN 1-58852-037-4.
  3. Edwards, J. Stanley (2009). Tort Law for Legal Assistants. Clifton Park, NY: Cengage Learning. tt. 197–8. ISBN 1-4283-1849-6.
  4. Structured settlement: Definition from Answers.com