Sashimi

Oddi ar Wicipedia
Sashimi eog gyda saws soi
Traddodiadol Sashimi

Sashimi (刺身) yw'r enw a roddir ar fath o fwyd o Japan. Y prif gynhwysyn ydy pysgod amrwd wedi ei sleisio mewn darnau tenau a'u gweini gyda saws soi (shōyu) a wasabi ac yn aml sinsir wedi ei ratio neu ponzu. Yn dibynnu ar y math o bysgodyn, addurnir y pryd gyda shiso a rhuddygl gwyn (daikon) wedi ei ratio yn fân.

Mae'r gair sashimi yn golygu "pinio cnawd", h.y. "刺身 = sashimi = = sashi (pinio) a = mi (cnawd, cig). Mae'n bosib y daw o'r hen draddodiad o ddefnyddio cynffon y pysgodyn fel label i mewn yn y pysgodyn er mwyn nodi pa bysgodyn a fwyteir.