S. E. Hinton

Oddi ar Wicipedia
S. E. Hinton
FfugenwS.E. Hinton Edit this on Wikidata
Ganwyd22 Gorffennaf 1948 Edit this on Wikidata
Tulsa, Oklahoma Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Tulsa
  • Ysgol Uwchradd Will Rogers Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, sgriptiwr, awdur plant, hunangofiannydd, actor ffilm Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Outsiders Edit this on Wikidata
ArddullGwobr Llenyddiaeth Pobl Ifanc Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Margaret Edwards Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.sehinton.com Edit this on Wikidata

Awdur Americanaidd yw S. E. Hinton (ganwyd 22 Gorffennaf 1948[1]) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, sgriptiwr ac fel awdur llyfrau i oedolion ifanc a phlant.[2] Lleolir llawer o'i gwaith yn Oklahoma, e.e. The Outsiders, a ysgrifennodd pan oedd yn yr ysgol uwchradd. Ym 1988 derbyniodd Wobr gyntaf Margaret Edwards gan Cymdeithas Llyfrgelloedd America am ei chyfraniad i lenyddiaeth ar gyfer pobl ifanc.[3][4][5]

Fe'i ganed yn Oklahoma lle mynychodd Ysgol Uwchradd Will Rogers a Phrifysgol Tulsa.

Yr awdur ifanc[golygu | golygu cod]

Tra yn ei harddegau, daeth Hinton yn enw adnabyddus drwy UDA fel awdur The Outsiders, ei nofel gyntaf a mwyaf poblogaidd, wedi'i gosod yn Oklahoma yn y 1960au. Dechreuodd ysgrifennu'r nofel ym 1965.[6] Ysbrydolwyd y llyfr gan ddau gang cystadleuol yn ei hysgol, sef y "Greasers" a'r "Socs", a'i hawydd i ddangos empathi tuag at y Greasers trwy ysgrifennu o'u safbwynt nhw. Cyhoeddwyd y nofel gan Viking Press ym 1967, yn ystod ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Tulsa.[7][8] Ers hynny, mae'r llyfr wedi gwerthu mwy na 14 miliwn o gopïau ac mae'n dal i werthu mwy na 500,000 y flwyddyn (2019).[9] [10]

Awgrymodd ei chyhoeddwr y dylai ddefnyddio ei blaenlythrennau yn lle ei henwau llawn fel na fyddai'r adolygwyr gwrywaidd yn gwrthod y nofel oherwydd bod yr awdur yn fenywaidd.[11] Ar ôl llwyddiant The Outsiders, dewisodd Hinton barhau i ysgrifennu a chyhoeddi gan ddefnyddio'i blaenlythrennau, oherwydd nad oedd am golli'r hyn a wnaeth yn enwog, ac er mwyn cadw ei bywyd preifat a'i bywyd chyhoeddus ar wahân.

Y person[golygu | golygu cod]

Mewn cyfweliadau, mae Hinton wedi nodi ei bod yn berson preifat a mewnblyg, nad yw bellach yn ymddangos yn gyhoeddus.[12] Dywedodd hefyd ei bod yn mwynhau darllen Jane Austen, Mary Renault, ac F. Scott Fitzgerald, cymryd dosbarthiadau yn y brifysgol leol, a marchogaeth.[13]

Mae hi'n byw yn Tulsa, Oklahoma gyda'i gŵr David Inhofe, peiriannydd meddalwedd, y priododd hi yn ystod haf 1970 ar ôl cwrdd ag ef yn ei dosbarth bywydeg yn ystod ei blwyddyn gyntaf yn y coleg.[14] Ym mis Awst 1983, daethant yn rhieni i Nicolas David Inhofe, a weithiodd fel recordydd effeithiau sain ar y ffilm Ice Age: The Meltdown.[15][16]

Nofelau i bobl ifanc[golygu | golygu cod]

  • The Outsiders (1967)
  • That Was Then, This Is Now (1971)
  • Rumble Fish (1975)
  • Tex (1979)
  • Taming the Star Runner (1988)

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Margaret Edwards (1988) .

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "S E Hinton". The New York Times. 2010. Cyrchwyd 2011-09-09.
  2. Pulver, Andrew (October 29, 2004). "When you grow up, your heart dies: SE Hinton's The Outsiders (1983)". The Guardian. Cyrchwyd 2010-03-25.
  3. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb141063334. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad geni: https://www.oif.ala.org/oif/?p=10473. dyddiad cyrchiad: 14 Ionawr 2022. https://www.who2.com/se-hinton-staying-gold-plus-two-years/. dyddiad cyrchiad: 14 Ionawr 2022. "Hinton, S. E." Cyrchwyd 14 Ionawr 2022. https://www.infoplease.com/people/who2-biography/se-hinton. dyddiad cyrchiad: 14 Ionawr 2022. https://www.brainyhistory.com/events/1948/july_22_1948_393083.html. dyddiad cyrchiad: 14 Ionawr 2022. https://www.allmovie.com/artist/p32477. dyddiad cyrchiad: 14 Ionawr 2022. https://port.hu/adatlap/szemely/se-hinton/person-564274. dyddiad cyrchiad: 14 Ionawr 2022. https://www.nndb.com/people/376/000026298/. dyddiad cyrchiad: 14 Ionawr 2022. https://aleph.nkp.cz/F/?func=find-c&local_base=aut&ccl_term=ica=xx0160562. dyddiad cyrchiad: 9 Hydref 2019. http://www.isfdb.org/cgi-bin/ea.cgi?2450. dyddiad cyrchiad: 14 Ionawr 2022.
  5. Man geni: http://sehinton.com/bio.html.
  6. Smith, Dinitia (September 7, 2005). "An Interview With S. E. Hinton: An Outsider, Out of the Shadow". The New York Times.
  7. Peck, Dale (September 23, 2007). "The Outsiders: 40 Years Later". The New York Times.
  8. "About S. E. Hinton". Penguin Group USA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-07.
  9. Italie, Hillel (October 3, 2007). "40 years later Hinton's 'The Outsiders' still strikes a chord among the readers". San Diego Union-Tribune. Associated Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 2, 2017. Cyrchwyd 2019-06-13. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  10. Alma mater: https://www.who2.com/se-hinton-staying-gold-plus-two-years/.
  11. "Staying Golden". Unsigned review of Hawkes Harbor. New York Press. September 28, 2004. Cyrchwyd 2010-03-25. Italic or bold markup not allowed in: |work= (help); Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  12. Heather Saucier, "INSIDE AN OUTSIDER // Noted Tulsa Author Prefers Family Life To Limelight", Tulsa World, 7 Ebrill 1997
  13. Emma Whitford, "Lev Grossman, S.E. Hinton, and Other Authors on the Freedom of Writing Fanfiction", Vulture.com, 13 Mawrth 2015
  14. "S.E. Hinton". tcmuk.tv.
  15. Wilson, Antoine (2003). S. E. Hinton. New York: Rosen Central. t. 51. ISBN 978-0-8239-3778-3.
  16. Nick Inhofe ar IMDb .