Gweriniaeth Sosialaidd Rwmania
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Rwmania Gomiwnyddol)
Arfbais Gweriniaeth Sosialaidd Rwmania (1965 – 1989)
Gweriniaeth Sosialaidd Rwmania (Rwmaneg: Republica Socialistă România) oedd enw swyddogol gwladwriaeth Rwmania yn y cyfnod pan reolid y wlad gan Blaid Gomiwnyddol Rwmania. Cyfeirir ati hefyd fel Rwmania Gomiwnyddol. Am gyfnod ar ôl i'r comiwnyddion gymryd drosodd arferid yr enw Gweriniaeth Pobl Rwmania (Romaneg: Republica Populară Romînă). Ffurfiwyd y weriniaeth yn swyddogol ar 30 Rhagfyr 1947. Rheolodd Nicolae Ceauşescu y wlad o 1967 hyd 1989 (pryd bu chwyldro a throdd y wlad yn ddemocratiaeth) dan yr enw Gweriniaeth Rwmania.
[golygu] Arlywyddion
- 1947-1952 Constantin Parhon
- 1952-1958 Petru Groza
- 1958-1961 Ion G. Maurer
- 1961-1965 G. Gheorghiu-Dej
- 1965-1967 Chivu Stoica
- 1967-1989 Nicolae Ceauşescu

