Roh Moo-hyun

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Roh Moo-huyn

Roh Moo-hyun (ynganiad Coreaidd: [nomuʝʌn]; (1 Medi, 1946 - 23 Mai, 2009) oedd 16eg Arlywydd De Corea. Bu'n gwneud y swydd hon o'r 25ain o Chwefror, 2003 tan y 25ain o Chwefror, 2008. Cyn dechrau'i yrfa fel gwleidydd, roedd yn gyfreithiwr hawliau dynol.

Canolbwyntiodd gyrfa gyreithiol Roh ar hawliau dynol myfyrwyr yn Ne Corea. Yn ddiweddarach, ffocysodd ei yrfa wleidyddol ar geisio oresgyn natur blwyfol gwleidyddiaeth De Corea, a chafodd ei ethol fel Arlywydd. Dylanwadwyd yr etholiad yn drwm gan ymgyrchwyr ar y wê, yn enwedig ar OhmyNews, a dyma oedd y tro cyntaf i hyn ddigwydd yng Nghorea.

Cyflawnodd Roh hunanladdiad ar y 23ain o Fai, 2009 gan neidio oddi ar glogwyn mynyddig, wedi iddo adael nodyn hunanladdiad. Cadarnhawyd ei hunanladdiad gan yr heddlu.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. SKorean ex-president Roh dies in apparent suicide The Associated Press. Adalwyd ar 23-05-2009