Rick Astley
| Rick Astley | |
|---|---|
| Gwybodaeth gefndirol | |
| Enw genedigol | Richard Paul Astley |
| Ganwyd | 6 Chwefror 1966 |
| Man geni | |
| Cerddoriaeth | Pop, Dawns, Soul |
| Galwedigaeth(au) | Canwr, cyfansoddwr, personoliaeth radio |
| Offeryn(au) cerdd | Llais, gitar, drymiau, allweddell |
| Blynyddoedd | 1985-1993 2001 - presennol |
| Label(i) recordio | RCA (1985 - 1993) Polydor Records(2000 - 1) Sony BMG (2004 - 5) Cruz Music (2010 - ) |
| Gwefan | rickastley.co.uk |
Canwr a chyfansoddwr cerddoriaeth Saesneg yw Rick Astley. Maent yn mwyaf enwog am ei gân o 1987, "Never Gonna Give You Up". Cyrhaeddodd y gân #1 mewn siartiau cerddoriaeth 25 gwlad gwahanol. Erbyn 1993, cafodd tua 40 miliwn o recordiau Astley eu gwerthu.[1] Wedi iddo ymddeol yn 1993, dychwelodd Astley nôl i'r byd enwogrwydd diolch i'r meme wê poblogaidd "Rickrolling". Cafodd Astley ei enwi'r "Act Gorau Erioed" gan bleidleiswyr yr MTV Europe Music Awards yn 2008.[2]
Ganwyd Astley yn Glannau Merswy, Lloegr i deulu dosbarth canol ar y 6ed o Chwefror, 1966. Ysgarodd ei rhieni pryd yr oedd yn 5 mlwydd oed a chafodd Astley a'i tri siblingiaid ei fagu gan eu dad. Dechreuodd Astley i ganu yn côr ei ysgol pryd yr oedd yn 10 mwlydd oed ac yn ystod ei fywyd ysgol, perfformiodd Astley fel drymiwr mewn nifer o fandiau lleol.[3] Yn 1985 roedd Astley yn drymio am fand lleol FBI ond, wrth i prifganwr y fand adael, penderfynnodd Astley i ganu yn ei le. Wrth perfformio un noson, caiff Astley ei weld gan Pete Waterman a dechreoudd ei gyrfa canu proffesiynol.
Rick Rollio [golygu]
Yn 2007 fe ddaeth Rick yn rhan o 'meme' feiral ar draws y rhyngrwyd o'r enw RickRolling. Mae defnyddiwr y rhyngrwyd yn cael i dwyllo mewn i wylio fideo o'r gân "Never going to give you up" trwy ddilyn cyswllt i'r fideo. Ar y cyntaf o Ebrill fe dwyllodd y gwefan YouTube gwylwyr gan dangos y fideo ar bob fideo yr oedd gwylwyr yn clicio arno.
Ond er gwetha'r ffaith y bod ei fideo wedi cael miliwne o hits fe gafoth Rick dim ond $12 mewn breindaliadau (Cymerodd y cwmni recordio y mwyafrif)
Disgyddiaeth [golygu]
- Whenever You Need Somebody (1987)
- Hold Me In Your Arms (1989)
- Dance Mixes (1990)
- Free (1991)
- Body & Soul (1993)
- 12 Inch Collection (1999)
- Together Forever - Greatest Hits and More... (2000)
- Keep It Turned On (2001)
- Greatest Hits (2002)
- The Best of Rick Astley - Never Gonna Give You Up (2003)
- Love Songs (2004)
- Platinum & Gold Collection (2004)
- Artist Collection: Rick Astley (2004)
- Portrait (2005)
- Collections (2006)
- Together Forever - The Best of Rick Astley (2007)
- Ultimate Collection (2008)
- Playlist: The Very Best of Rick Astley (2008)