Rhyfel Cartref Periw (1980–presennol)

Oddi ar Wicipedia
Rhyfel Cartref Periw
Enghraifft o'r canlynolinternal armed conflict Edit this on Wikidata
Dyddiad22 Mehefin 2002 Edit this on Wikidata
Rhan oy Rhyfel Oer Edit this on Wikidata
Dechreuwyd17 Mai 1980 Edit this on Wikidata
LleoliadPeriw Edit this on Wikidata
GwladwriaethPeriw Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gwrthdaro arfog ym Mheriw a ymleddir ers 1980 rhwng herwfilwyr comiwnyddol a'r llywodraeth yw Rhyfel Cartref Periw (Sbaeneg: conflicto armado interno del Perú, sef "gwrthdaro arfog mewnol Periw") a elwir hefyd y cyfnod o derfysgaeth (la época del terrorismo). Lansiwyd gwrthryfel gan y Sendero luminoso ("Llwybr Disglair") ym Mai 1980, gyda'r nod o ysgogi chwyldro a sefydlu gwladwriaeth sosialaidd, ac ym 1984 ymunodd Mudiad Chwyldroadol Túpac Amaru (MRTA) â'r ffrae. Chwalwyd yr MRTA ym 1997, ac enciliodd y Sendero luminoso erbyn diwedd 2000. Ailgynnwyd y rhyfel, ar raddfa isel, yn 2002.

Sefydlwyd y Sendero luminoso gan yr academydd Abimael Guzmán ym 1969, fel plaid gomiwnyddol i hyrwyddo Pensamiento Gonzalo ("Meddwl Gonzalo"), sef ffurf Guzmán ar Farcsiaeth–Leniniaeth–Maoaeth. Treuliodd Guzmán y 1970au yn ddatblygu'r mudiad i fod yn fyddin herwfilwrol yn ogystal â charfan wleidyddol, ac aeth gyda'i ddilynwyr, y Senderistas, ar herw yn y cefn gwlad. Cyhoeddwyd dechrau'r gwrthryfel yn ystod etholiad cyffredinol Mai 1980, ac un o weithredoedd cychwynnol y Senderistas oedd llosgi blychau pleidleisio. Ymhen fawr o dro, llwyddasai Sendero luminoso i gipio rhannau mawr o diriogaeth Periw, a throdd yn wrthdaro gwaedlyd gan gynnwys terfysgaeth yn erbyn y bobl gan y Senderistas a lluoedd diogelwch y llywodraeth. Ar y cychwyn cafodd Guzmán gefnogaeth nifer o'r gwerinwyr, am iddo ddisodli a lladd nifer o swyddogion llygredig a gormesol. Yn y pen draw, trodd trwch y boblogaeth yn erbyn Sendero luminoso wrth i Guzmán orfodi trefn biwritanaidd newydd yn ei diriogaeth, gan gynnwys dirwest gorfodol.

Cafwyd hyd i Guzmán gan lu gwrth-derfysgaeth ym 1992, a fe'i olynwyd yn arweinydd y Sendero luminoso gan Óscar Ramírez. Ym 1992 hefyd daliwyd Victor Polay Campos, arweinydd yr MRTA. Yn Rhagfyr 1996 cymerwyd cannoedd o bobl yn wystlon gan yr MRTA ym mhreswylfa llysgennad Japan i Beriw. Daeth yr argyfwng i ben yn Ebrill 1997 yn sgil cyrch gan y lluoedd arfog i achub y gwystlon, a diddymwyd yr MRTA. Cafodd Ramírez ei arestio ym 1999, ac enciliodd olion y Sendero luminoso i Ddyffryn Afonydd Apurímac, Ene a Mantaro (VRAEM). Bu cyfnod o heddwch i raddau nes i'r Senderistas ailddechrau'r gwrthryfel yn 2002. Mae un o ôl-garfanau'r Senderistas yn parhau'n weithgar mewn jyngl yng nghanolbarth Periw, ac yn ymwneud yn bennaf â'r fasnach gyffuriau.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) William Neuman, "Peru Forced to Confront Deep Scars of Civil War", The New York Times (26 Mai 2012). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 10 Awst 2020.