Rheilffordd Swanage

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
'Manston' yng Ngorsaf Swanage
80104 yng Ngorsaf Swanage
Rheilffordd Swanage Railway
BSicon .svg CONTg BSicon .svg BSicon .svg BSicon .svg
i Weymouth
BSicon .svg ABZfg BHFq STRq STRlg
Wareham
BSicon .svg STR BSicon .svg BSicon .svg CONTf
i Bournemouth
BSicon .svg ABZlf STRlg BSicon .svg BSicon .svg
exKDSTl eABZrf STR BSicon .svg BSicon .svg
Rheilffordd Furzebrook
BSicon .svg STR KDSTe BSicon .svg BSicon .svg
Fferm Wytch
uexCONTr emKRZo uexCONTl BSicon .svg BSicon .svg
Rheilffordd Furzebrook
BSicon .svg STR BSicon .svg BSicon .svg BSicon .svg
ailgysylltiad
BSicon .svg AKRZu BSicon .svg BSicon .svg BSicon .svg
A351
BSicon .svg eABZlf exSTRlg uexENDEa BSicon .svg
BSicon .svg STR exSTR uexSTR BSicon .svg
hen gilffordd
BSicon .svg STR exENDEe uexSTR BSicon .svg
cilffordd Eldon
BSicon .svg STR BSicon .svg uexABZlf uexCONTl
i Goathorn
BSicon .svg BHF PARKING uexSTR BSicon .svg
Norden
uexCONTr emKRZu uexSTRq uexABZ3lf uexENDEl
i Waith Norden
BSicon .svg AKRZo BSicon .svg BSicon .svg BSicon .svg
Pont Ffordd Studland (B3351)
BSicon .svg AKRZo BSicon .svg BSicon .svg BSicon .svg
Lôn Sandy Hill
BSicon .svg BHF BSicon .svg BSicon .svg BSicon .svg
Castell Corfe
BSicon .svg AKRZu BSicon .svg BSicon .svg BSicon .svg
A351
BSicon .svg BHF BSicon .svg BSicon .svg BSicon .svg
Harman's Cross
BSicon .svg AKRZu BSicon .svg BSicon .svg BSicon .svg
A35]
BSicon .svg AKRZu BSicon .svg BSicon .svg BSicon .svg
Lôn Washpond
BSicon .svg HST BSicon .svg BSicon .svg BSicon .svg
Arhosfa Herston
BSicon .svg STR DST legende BSicon .svg BSicon .svg
Gweithdy Rheilffordd Swanage
BSicon .svg STR exENDEa BSicon .svg BSicon .svg
BSicon .svg STR exABZlf exKDSTr BSicon .svg
hen Waith Nwy Swanage
BSicon .svg eABZrg exABZrf BSicon .svg BSicon .svg
BSicon .svg STR exENDEe BSicon .svg BSicon .svg
BSicon .svg AKRZu BSicon .svg BSicon .svg BSicon .svg
A351 Rhodfa Victoria
exSTRrg eABZrf BSicon .svg BSicon .svg BSicon .svg
exSTR KBHFe BSicon .svg BSicon .svg BSicon .svg
Swanage
exKDSTe BSicon .svg BSicon .svg BSicon .svg BSicon .svg
hen dramffordd

Hanes y lein wreiddiol[golygu]

Agorwyd y lein rhwng Wareham, Corfe Castle a Swanage yn 1885. Caewyd a dymchwelwyd y lein i Swanage yn 1972. Caedwyd y lein rhwng Cyffordd Worgret a Furzebrook a ddefnyddiwyd yn wreiddiol i gludo clai (ers y 1880au), ac yn hwyrach olew a nwy o Fferm Wytch.

Hanes Rheilffordd Swanage[golygu]

Ffurfiwyd Cymdeithas Rheilffordd Swanage. Gwerthwyd Gorsaf Reilffordd Swanage i'r cyngor lleol gan Reilffordd Brydain. Ar ôl i breswylwyr Swanage bleidleisio o blaid ailadeiladu'r rheilffordd, llogwyd yr orsaf yn ôl i'r Gymdeithas gan y cyngor. Yna dechreuodd y gwaith o ailosod y cledrau. Ail-ddechreuodd gwasanaeth stêm ym 1980 a chyrhaeddwyd Herston, milltir o Swanage, erbyn 1982, lle adeiladwyd arhosfa newydd. Dechreuodd gwasanaeth i Herston ym 1984.

Cyrhaeddwyd Harman's Cross ym 1987 ac agorwyd gorsaf newydd ym 1988.

Atgyweiriwyd gorsaf reilffordd Castell Corfe ac estynwyd y lein yno, ac yn Awst, 1995, aeth y trên cyntaf yn ôl yno. Adeiladwyd gorsaf reilffordd newydd yn Norden, ac adeiladodd Cyngor Purbeck faes parcio sy'n dal 350 o geir i alluogi pobl i adael eu ceir yno a chymryd y trên, gan leihau pwysau ar yr A351 a meysydd parcio Swanage.[1] Yn Ionawr 2002, ailsefydlwyd cysylltiad i weddill rheilffyrdd Prydain pan ailosodwyd trac rhwng Norden a Motala. O 2007 ymlaen, defnyddiwyd y cysylltiad newydd gan locomotifau'n ymweld â Rheilffordd Swanage, ac ers 2009, mae trenau o weddill rheilffyrdd Prydain wedi cyrraedd Castell Corfe a Swanage.

Gweithdy Herston[golygu]

Mae'r gweithdy'n dal dwy locomotif. Mae'n uned diwydiannol yn ymyl Rhodfa Fictoria yn Swanage. Does dim cysylltiad rhwng y rheilffordd a'r gweithdy; rhaid i bob injan gael ei gludo ar y ffordd. [2]. Cynhelir trafodaeth â chwmni lleol gyda'r gobaith o symud i adeilad arall gyda chysylltiad i'r rheilffordd, i ddatrys problemau cludiant.[3]

Y dyfodol[golygu]

Er bod y Rheilffordd yn rheilffordd dreftadaeth, bwriedir iddi fod yn rheilffordd effeithiol a defnyddiol rhwng Wareham a Swanage ar gyfer preswylwyr lleol[4]. Gobeithir y bydd y gwasanaeth rhwng Wareham a Swanage yn ailddechrau erbyn Medi 2015, yn rhedeg ar 140 diwrnod dros gyfnod o ddwy flynedd cyn i'r gwasanaeth lawn ail-ddechrau.[5]. Mae Cyngor Ardal Purbeck a Chyngor Swydd Dorset wedi cyfrannu'n ariannol i'r estyniad yn ôl i Wareham.[6]

Locomotifau[golygu]

Locomotifau Stêm[golygu]

Rhif ac Enw Disgrifiad Nodiadau Lifrai Llun
27 Norman
(Rhif 68005)
Hunslet 'Austerity' 0-6-0ST Adeiladwyd ym 1943. Mae Norman yn gweithio'n rheolaidd ar Reilfford Embsay ac Abaty Bolton. Disgwylir y bydd yno am sawl blwyddyn i ddod. Du BR efo bathodyn cynnar.
6695 Dosbarth 5600 Rheilffordd Great Western 0-6-2T Yn gweithio. Adeiladwyd ym 1928. Gwyrdd BR efo bathodyn hwyr. 6695 Severn Valley Railway (5).jpg
30053

Dosbarth M7 |Rheilffordd Llundain a'r De Orllewin 0-4-4T

Yn gweithio. Adeiladwyd ym 1905. Du Brefo bathodyn hwyr. SR 53 at Leicester North (1).jpg
34010 Sidmouth Dosbarth West Country Rheilffyrdd y De 4-6-2 Adeiladwyd ym 1945. Cedwir ei foiler yn Bridgnorth ar Reilffordd Dyffryn Hafren. Hook Ocean Liner express geograph-2967269-by-Ben-Brooksbank.jpg
34028 Eddystone Dosbarth 'West Country' Rheilffyrdd y De 4-6-2

Adeiladwyd ym 1946.

Gwyrdd BR efo bathodyn hwyr. Swanage Railway, No. 34028 "Eddystone" - geograph.org.uk - 211759.jpg
34053 Sir Keith Park Dosbarth 'Battle of Britain' Rheilffyrdd y De 4-6-2 Gweithredol. Adeiladwyd ym 1947. Cedwir yn Rheilffordd Dyffryn Hafren oherwydd diffyg lle yn Swanage. Disgwylir y bydd yno am sawl blwyddyn. Gwyrdd BR efo bathodyn hwyr. 34053 Sir Keith Park at Bridgnorth.jpg
34070 Manston Dosbarth Battle of Britain Rheilffyrdd y De 4-6-2 Gweithredol. Adeiladwyd ym 1947. Gwyrdd BR efo bathodyn hwyr. Train departing from Swanage - geograph.org.uk - 1706923.jpg
No. 34072 257 Squadron Dosbarth 'Battle of Britain' Rheilffyrdd y De 4-6-2 Atgyweirir. Adeiladir tender newydd. Adeiladwyd ym 1948. Gwyrdd BR. 34072 257 Squadron.jpg
No. 80104 Tanc dosbarth 4 BR 2-6-4T Gweithredol. Adeiladwyd ym 1955. Tocyn boiler hyd at 2016 Du BR efo bathodyn hwyr. Norden station, Swanage Railway - geograph.org.uk - 854892.jpg

Locomotifau Diesel[golygu]

Rhif ac Enw Disgrifiad Nodiadau Lifrai Llun
08436 (D3551) Dosbarth 08 BR 0-6-0 Gweithredol, Adeiladwyd ym 1958 Du Swanage Railway loco-shed - geograph.org.uk - 1418582.jpg
D3591 (08476) Dosbarth 08 BR 0-6-0 Gweithredol, Adeiladwyd ym 1958 Gwyrdd BR SwanageLB03.jpg
No. D6515 (33012) BR Bo-Bo Class 33 "Crompton" Trwsiwir yng Ngweithdy Eastleigh, Adeiladwyd ym 1960 Gwyrdd BR 33012 & 73136 , Claycross.jpg
No. 33111 "Hot Dog"

Dosbarth 33 |BR Bo-Bo "Crompton"

Gweithredol, Adeiladwyd ym 1960 Glas BR

Unedau Diesel[golygu]

Rhif ac Enw Disgrifiad Nodiadau Lifrai Llun
Uned 51933+50654 Dosbarth 108 BR Gweithredol Gwyrdd Malachit Swanage Railway - geograph.org.uk - 1733365.jpg
Uned 51346+51388 Dosbarth 117 BR Yn disgwyl am atgyweiriad. Daeth ôl-gerbyd 59516 yn ôl iSwanage wedi atgyfnewid Gwyrdd BR Diesel Multiple Unit approaching Corfe Castle - geograph.org.uk - 1226410.jpg
Uned 55028 Dosbarth 121 BR Gweithredol Gwyrdd BR

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwefan BBC; adalwyd 14/05/2014
  2. Tudalen y Gweithdy ar wefan Ymddiriodolaeth y rheilffordd; adalwyd 14 Mai 2014
  3. Gwefan Bournemouth Echo; adalwyd 14 Mai 2014
  4. Cynllun strategol y rheilffordd, 2010; adalwyd 14 Mai 2014
  5. Gwefan BBC; adalwyd 14 Mai 2014
  6. Gwefan Dorset for you; adalwyd 14 Mai 2014

Dolenni Allannol[golygu]

Gwefan Rheilffordd Swanage

Gwefan Ymddiriodolaith Rheilffordd Swanage