Rheilffordd Stêm Ynys Wyth

Oddi ar Wicipedia
Trên yng ngorsaf Cyffordd Smallbrook
Rheilffordd Stêm Ynys Wyth
Continuation backward
Lein yr Ynysi'r gogledd
Unknown BSicon "KXBHFa-L" Unknown BSicon "XBHF-R"
Cyffordd Smallbrook
Small arched bridge over water Small arched bridge over water
Nant Monktonmead
Straight track Continuation forward
Lein yr Ynys i'r de
Level crossing
Llwybr Nunwell
Underbridge
Ffordd Ashey Road
Underbridge
Lôn Deacons
Stop on track
Ashey
Unknown BSicon "eABZgl" Unknown BSicon "exKHSTeq"
Cae Ras Ashey
Underbridge
Lôn Rowlands
Small arched bridge over water
Nant Chillingwood
Small arched bridge
Prif Ffordd Havenstreet
Stop on track
Havenstreet
Unknown BSicon "ABZg+l" Unknown BSicon "KDSTeq"
Depo Havenstreet
Small arched bridge over water
Underbridge
Level crossing
Lôn Packsfield
Unknown BSicon "KHSTxe"
Wootton
Unknown BSicon "exSBRÜCKE"
Heol yr orsaf
Unused continuation forward
Lein wedi'w chau i Cowes

Rheilffordd Treftadaeth rhwng Cyffordd Smallbrook a Wootton ydy Rheilffordd Stêm Ynys Wyth.

Hanes[golygu | golygu cod]

Agorwyd Rheilffordd Ryde a Newport ar 20 Rhagfyr 1875 o Gyffordd Smallbrook, yn ymyl Ryde, i Newport, Ynys Wyth, lle cysylltiodd y lein efo Rheilffordd Cowes a Newport. Daeth y ddwy reilffordd yn un, y Rheilffordd Ganolog Ynys Wyth ym 1887. Daeth y rheilffordd yn rhan y Rheilffordd Llundain a'r De Orllewin ar 31 Rhagfyr 1922, ac y cwbl yn rhan o'r Rheilffordd Deheuol y diwrnod nesaf. Daeth rheilffyrdd yr ynys yn rhan o Reilffyrdd Prydeinig ym 1948. Caewyd y lein ar 21 Chwefror 1966.[1]

Atgyfodi[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd cyfarfod yn Llundain ym 1965, a chytunwyd i geisio prynu locomotiv dosbarth 'O2' a cherbydau. Ffurfiwyd Cymdeithas Locomotif Wyth. Prynwyd locomotif O2 'Calbourne' efo cymorth cyllidol gan yr arlynydd David Shepherd a phrynwyd 5 cerbyd yn ddiweddarach[2], a phrynwyd y lein rhwng Wootton a Havenstreet, a symudwyd y locomotif a cherbydau o Newport i Havenstreet ar 24 Ionawr 1971.[3] Agorwyd gorsaf reilffordd Havenstreet ar bob yn ail p.nawn Sul dros yr haf ym 1971. Agorwyd gorsaf newydd yn Wootton ar 7 Awst 1976. Estynnwyd gwasanaethau i Gyffordd Smallbrook ar 20 Gorffennaf 1991.[2]

Agorwyd Canolfan ymwelwyr yn Havenstreet ar April 6, 2014 [4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Tudalen hanes rheilffyrdd yr ynys ar wefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-30. Cyrchwyd 2016-07-16.
  2. 2.0 2.1 Gwefan woottonbridge
  3. "Tudalen am atgyfodiad ar wefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-22. Cyrchwyd 2016-07-16.
  4. "Gwefan rail.co.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-26. Cyrchwyd 2016-07-16.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]