Rhanbarth Ymreolaethol Bougainville

Oddi ar Wicipedia
Rhanbarth Ymreolaethol Bougainville
Mathadministrative territorial entity of Papua New Guinea, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf, endidau tiriogaethol rheolaethol Edit this on Wikidata
PrifddinasBuka Edit this on Wikidata
Poblogaeth349,358 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 2004 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPapua Gini Newydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Papua Gini Newydd Papua Gini Newydd
Arwynebedd9,357 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau6°S 155°E Edit this on Wikidata
PG-NSB Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
President of the Autonomous Region of Bougainville Edit this on Wikidata
Map
CMC y pen$4,151 Edit this on Wikidata
Y faner

Rhanbarth ymreolaethol yn Papua Gini Newydd, Oceania, yw Bougainville, yn swyddogol y Rhanbarth Ymreolaethol Bougainville. Ynghyd â Ynys Bougainville ei hun, mae'r rhanbarth yn cynnwys Ynys Buka a nifer o ynysoedd ac atolau anghysbell.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 249,358.[1] Tok Pisin yw lingua franca Bougainville, er bod amrywiaeth o ieithoedd Awstronesaidd ac ieithoedd eraill yn cael eu siarad yno.

Mae mudiad ymwahanol cryf wedi bodoli yn Bougainville ers y 1960au, a datganodd y rhanbarth ei hannibyniaeth ychydig cyn annibyniaeth Papua Gini Newydd yn 1975. Beth bynnag, ymgorfforwyd Bougainville yn Papua Newydd yn y flwyddyn ganlynol. Ar ôl ymgyrch dreisgar dros annibyniaeth cynhaliwyd refferendwm yn 2019; o'r 87.6% y poblogaeth a bleidleisiodd, roedd 98.3% o blaid annibyniaeth. Cytunodd y ddwy lywodraeth yn 2021 ar amserlen yn rhagweld datganoli pwerau pellach i Bougainville yn 2023 ac annibyniaeth lawn yn 2027 fan bellaf.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. City Population; adalwyd 10 Mehefin 2022
  2. "Bougainville: Nation Profile", Nationalia; adalwyd 12 Mehefin 2022
Eginyn erthygl sydd uchod am Bapua Gini Newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.