Pryfyn y gweryd

Oddi ar Wicipedia
Pryfyn y gweryd
Enghraifft o'r canlynoltacson Edit this on Wikidata
Safle tacsonteulu Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonTabanomorpha, Tabanoidea Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Pryf sydd yn heintio gwartheg ac anifeiliaid mawr eraill, yn boenus, trwy dreiddio o dan y croen yw pryfyn y gweryd. Fe'i adnabyddir yn fwy cyffredin fel robin y gyrrwr.

Pryfyn y gweryd a chymalau ei fywyd

Cysylltiad â phobl[golygu | golygu cod]

  • T. H. Parry-Williams

T. H. Parry-Williams ddwedodd mewn ysgrif ddifyr iawn o’i eiddo ysgrifennwvd yn y flwyddyn 1927, ar gael yn y gyfrol Ysgrifau (1028: a.a. 1978), mai robin y gyrrwr ydy'r “pryfyn distadl ond brathog... hwnnw sy’n gwanu croen gwartheg” ac yn eu gyrru “ar garlam gwyllt hyd y cefnennau ym mis Awst, a’u cynffonnau i fyny. Ebe’r Athro a’r Bardd o'r Rhyd-ddu:

“Wedi iddo dyfu i'w lawn faint, pryf tebyg i gacynen ydyw Robin Gyrrwr. Dan ei drwyn yn rhywle y mae ganddo swmbwl, peth tebyg i bicell fain i wanu’r croen fel y gall sugno’r gwaed. Efallai nad ydyw'r fuwch yn rhedeg yn rhuslyd ar ôl y gwaniad cyntaf, ond pan debygo glywed swn atgas adenydd Robin rywdro wedyn, yna y mae hi’n gwallgofi ac yn eisio dianc rhag “swn y boen”.[1]
  • Dynwared

Darllenais yn rhywle, hynny dro byd yn ôl, bod rhai ffermwyr yn gallu dynwared y pryfyn dan sylw ac yn cynhyrfu ei wartheg yn y fath fodd fel eu cael i symud porfa.[2]

  • Stodi

Mewn rhai ardaloedd[angen ffynhonnell] gelwir y symtom nodweddiadol a ddangosir gan wartheg yn rhusio mewn ofn o flaen y pry gweryd â'u cynffon i fyny yn 'stodi'. Dyma GPC:

pystodaf, bystodaf: pystodi, bystodi
[?cf. ymystodaf: ymystodi, pystylad] Carlamu’n wyllt (am wartheg), rhuthro, brysio; sengi dan draed, damsang; gwneud stomp o (rywbeth), bwnglera: to stampede (of cattle), rush, hurry; trample; make a mess of, bungle.
1928 T. H. Parry-Williams: (Y 74-5), Robin y Gyrrwr … rhyw ysbryd aflan … yn meddiannu’r gwartheg druain ac yn peri iddynt bystodi’n llamsachus.
Ar lafar yn Arfon: cf. J. Jones: Gwerin-eiriau² 187, pystodi: rhuthro, ffrwcsio; WVBD 68, bystodi, to run about wildly (of cattle in hot weather); TGG (1903) 25, Bystodi … To make a mess, e.g. bystodi’r gwair.
Ym Môn clywir y ff. ’stodi cf. ISF 71, ‘gwartheg yn stodi’, neu’n pystodi, h.y. yn rhedeg o flaen y pry.
  • Cof plentyn Grace Dawson, Waunfawr yn y 1940au

Mewn sgwrs ffôn bore'r 4 Ionawr 2019 gyda Mrs. Grace Dawson, gynt o'r Gors, Waunfawr, sydd yn ei phedwar-ugeiniau, am y robin gyrrwr. Dechreuodd sôn (heb ei chymell) am fywyd fferm Y Gors, Cefn Du, Waunfawr ac am y ROBIN GYRRWR. Dywedodd Grês ei bod hi wrth ei bodd yn blentyn yn tyllu cnonod y robin gyrrwr allan o’r crachod oedd yn hel ar hyd asgwrn cefn y gwartheg ac wedyn rhoi carreg arnyn nhw a’u gwasgu dan ei throed! Roedd hyn yn waith rhy anghynnes i’w chwaer. Cofiai’r gwartheg yn carlamu, cynffon at i fyny, o gwmpas y cae a sŵn byzian y robin gyrrwr ar eu holau. Doedd hi ddim yn gyfarwydd a’r gair “stodi” am yr arferiad yma.

Enwau eraill[golygu | golygu cod]

Enwau eraill (heblaw "hen gythral"!) am robin gyrrwr ydyw pryfyn y gweryd (gair arall am ddaearen neu briddell ydyw gweryd).[2].

Saesneg: warble fly, gad-fly

Diwylliant[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Ysgrifau (1028: a.a. 1978)
  2. 2.0 2.1 Eco'r Wyddfa: Chwefror 2019
  3. Walker, John Lewis (2002). Shakespeare and the Classical Tradition: An Annotated Bibliography, 1961–1991. Taylor & Francis. t. 363. ISBN 978-0-8240-6697-0.