Pop Negatif Wastad

Oddi ar Wicipedia

Grŵp cerddoriaeth electronig a roc amgen yn yr 1980au hwyr oedd Pop Negatif Wastad. Aelodau'r grŵp oedd Gareth Potter ac Esyllt Wigley o'r grŵp Crisialau Plastig. Y dylanwad pennaf armymt oedd Acid House a phync Americanaidd a gellir disgrifio'r gerddoriaeth fel cyfuniad o gerddoriaeth ‘ddiwydiannol’ dywyll a ‘house’.[1]

Wnaethon nhw erioed chwarae'n fyw, ond fe ymddangoson nhw ar Fideo 9, gan recordio thema i'r rhaglen Slac Yn Dynn ar S4C a chwaraeodd y band yn y ffilm Mwg Glas, Lleuad Waed.[2]

Disgograffi[golygu | golygu cod]

Traciau: Valium, Pop Negatif Wastad, Kerosene, Iawn, Pop negatif, "Helo rhywbeth newydd".

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. www.ytwll.com; adolygiad o arddangosfa o gloriau Pop Negatif Wastad gan Carl Morris; adalwyd 20 Mai 2015
  2. Proffil y grŵp ar Curiad.org