Penrhyn Labrador
Oddi ar Wicipedia
Penrhyn mawr yn nwyrain Canada yw Penrhyn Labrador. I'r gorllewin o'r penrhyn mae Bae Hudson, i'r gogledd mae Culfor Hudson ac i'r dwyrain mae Gwlff St Lawrence. Cafodd Labrador ei enw o enw'r fforiwr Portiwgeaidd João Fernandes Lavrador fu yma yn niwedd y 15fed ganrif.
Yn weinyddol, mae'r penrhyn yn cynnwys Labrador, sy'n rhan o dalaith Newfoundland a Labrador, a rhan o ranbarthau Saguenay-Lac-Saint-Jean, Côte-Nord a Nord-du-Québec yn nhalaith Québec.