Paul Lauterbur

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cemegydd o Americanwr oedd Paul Christian Lauterbur (6 Mai 1929 – 27 Mawrth 2007)[1] a gyd-enillodd Wobr Nobel am Ffisioleg neu Feddygaeth gyda Peter Mansfield yn 2003 "am eu darganfyddiadau parthed delweddu cyseiniant magnetig" (MRI).[2]

Ganwyd yn Sidney, Ohio, ac enillodd ddoethuriaeth mewn cemeg o Brifysgol Pittsburgh ym 1962. Addysgodd ym Mhrifysgol Stony Brook o 1969 hyd 1985 ac yna daeth yn athro ym Mhrifysgol Illinois ac yn gyfarwyddwr Labordy Cyseiniant Magnetig Biomeddygol y brifysgol honno.[3]

Bu farw yn 77 oed o glefyd yr aren.[4]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) Mansfield, Peter a Morris, Peter (18 Mai 2007). Obituary: Paul Lauterbur. The Guardian. Adalwyd ar 11 Awst 2013.
  2. (Saesneg) The Nobel Prize in Physiology or Medicine 2003. Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 11 Awst 2013.
  3. (Saesneg) Paul Lauterbur (American chemist). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Awst 2013.
  4. (Saesneg) Chang, Kenneth (28 Mawrth 2007). Paul C. Lauterbur, 77, Dies; Won Nobel Prize for M.R.I.. The New York Times. Adalwyd ar 11 Awst 2013.

Darllen pellach[golygu]

  • Dawson, M. Joan. Paul Lauterbur and the Invention of MRI (MIT Press, 2013).

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Baner United StatesEicon gwyddonydd Eginyn erthygl sydd uchod am wyddonydd Americanaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.