Paris-Saclay

Oddi ar Wicipedia
Paris-Saclay
Delwedd:HEC Paris entrée.JPG, Campus Ecole polytechnique de palaiseau.jpg
Mathcanolbwynt technoleg, canolfan ymchwil, business cluster, endid tiriogaethol gweinyddol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1950 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau48.71°N 2.16917°E Edit this on Wikidata
Cod post91400 Edit this on Wikidata
Map

Paris-Saclay yn barc technolegol a gwyddonol ger Saclay yn yr Île-de-France. Mae'n cynnwys sefydliadau ymchwil, dwy brifysgol fawr yn Ffrainc gyda sefydliadau addysg uwch (grandes écoles) a hefyd canolfannau ymchwil cwmnïau preifat. Yn 2013, gosododd Technology Review Paris-Saclay ymhlith yr 8 clwstwr ymchwil gorau yn y byd[1]. Yn 2014, roedd yn cynrychioli bron i 15% o gapasiti ymchwil wyddonol Ffrainc.

Mae'r aneddiadau cyntaf yn dyddio'n ôl i'r 1950au, ac ehangodd yr ardal sawl gwaith yn ystod y 1970au a'r 2000au.Mae nifer o brosiectau datblygu campws ar y gweill ar hyn o bryd, gan gynnwys adleoli rhai cyfleusterau.[2]

Mae'r ardal bellach yn gartref i lawer o gwmnïau uwch-dechnoleg mwyaf Ewrop, yn ogystal â'r ddwy brifysgol orau yn Ffrainc, yr Prifysgol Paris-Saclay (CentraleSupélec, ENS Paris-Saclay, ...) a'r Institut polytechnique de Paris (École polytechnique, Télécom ParisTech, HEC Paris, ...). Yn safle ARWU 2020, mae Prifysgol Paris-Saclay yn safle 14 yn y byd ar gyfer mathemateg ac yn 9fed yn y byd ar gyfer ffiseg (1af yn Ewrop).[3]

Y nod oedd cryfhau'r clwstwr i greu canolfan wyddoniaeth a thechnoleg ryngwladol a allai gystadlu ag ardaloedd uwch-dechnoleg eraill fel Dyffryn Silicon neu Cambridge, MA.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]