Pan-Slafiaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mudiad sy'n anelu at undod gwleidyddol, diwylliannol a chrefyddol yr holl bobloedd Slafonaidd yw Pan-Slafiaeth. Fe ddatblygodd ym mlynyddoedd cynnar yr 19eg ganrif fel ffurf o genedlaetholdeb ramantaidd. Cynhaliwyd y Gyngres Ban-Slafaidd Gyntaf ym Mhrag yn awyrgylch chwyldroadol mis Mehefin 1848.