Pais

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Merch ar siglen yn dangos ei phais wen. Llun gan Louis Denis-Valvérane.

Dilledyn isaf merch ydy pais (Saesneg: petticoat); y lluosog ydy peisiau.

Gellir ystyried gwisg y balerina, neu'r dilledyn modern hwn yn fath o bais.

Caiff ei wisgo o dan sgert a chaiff ei ystyried yn ddilledyn isa. Daeth y bais yn boblogaidd yn yr 17eg ganrif, er nad oedden nhw'n cael eu cyfrif yn ddilledyn isaf bryd hynny. Cânt eu gwisg naill ai er mwyn cadw'r corff yn gynnes, neu i roi siap i'r sgert, neu hyd yn oed yn bryfoclyd.

Arferai'r gair olygu 'dilledyn' fel yn yr hwiangerdd honno a geir yn Y Gododdin: Pais Dinogad pais fraith...

Dywediadau[golygu]

  • Rhy hwyr codi pais ar ôl piso: peth afrad ydy ymddiheuro
  • Llywodraeth y bais: y wraig yn rheoli.