Paid â Deud (cân werin)

Oddi ar Wicipedia

Cân werin serch, draddodiadol yw Paid â Deud, a cheir ynddi enghreifftiau o hen benillion. Mae'r gân yn cynnig cyngor i bobl sy'n glaf o gariad (pennill 1) a'r ail bennill yn gyngor ehangach - i'r rhai hynny sy'n wynebu problemau'r byd.

Cafodd Paid â deud ei hail-recordio gan fand ifanc o'r enw Cowbois Rhos Botwnnog a chafodd ei ryddhau gan fand o'r enw Gildas yn 2015 hefo albwm o'r un enw.

Geiriau[golygu | golygu cod]

Os yw’th galon bron a thorri
Paid â deud
Am fod serch dy fron yn oeri,
Paid â deud,
Ac os chwalu mae d’obeithion,
Paid â deud;
Ni ddaw neb i drwsio’th galon,
Paid â deud.

Pan fo stormydd byd yn gwgu
Paid â deud;
A gelynion yn dy faeddu,
Paid â deud;
Ac os weithiau byddi’n llwyddo,
Paid â deud;
Hawdd i’th lwydd fynd trwy dy ddwylo
Wrth it ddweud.

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato