Pac-Man and the Ghostly Adventures (cyfres deledu)

Oddi ar Wicipedia

Cyfres deledu antur-gomedi animeiddiedig Americanaidd/Japaneaidd/Ganadaidd yw Pac-Man and the Ghostly Adventures, a elwir hefyd yn Pac-World (パックワールド Pakkuwārudo), sy'n cynnwys cymeriad gêm fideo Namco, Pac-Man. Mae'n cael ei chynhyrchu gan 41 Entertainment, Arad Productions a Bandai Namco Entertainment ar gyfer Tokyo MX (fersiwn stereo), BS11 (fersiwn stereo) a Disney XD (fersiwn dwyieithog). Cafodd y gyfres ei dangos am y tro cyntaf ar 15 Mehefin 2013 ar sianel Disney XD.

Mae'r gyfres yn digwydd ar ac o amgylch y blaned 'Pac-World' yn ogystal â'r 'Nether-World', lle mae amser yn pasio ar gyfradd tebyg i'r Ddaear (24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos a 365 diwrnod y flwyddyn).[1] Mae Pac-Man [2] a'i ffrindiau gorau[3] Spiral a Cylindria yn mynd i Ysgol Maze High, ysgol breswyl sydd wedi'i lleoli yn ninas Pacopolis.[4] Maent yn helpu i amddiffyn dinasyddion rhag bygythiad Ysbrydion ar ôl i'r sêl a oedd yn cloi'r Nether-World gael ei hagor yn ddamweiniol gan Pac wrth iddo osgoi bwli'r ysgol, Skeebo. Gall ysbrydion feddu ar gyrff 'Pac-World' er mai dim ond am gyfnod o ychydig funudau y maent yn cael eu cadw oni bai bod technoleg Dr. Buttocks yn eu cynorthwyo.[5] Fel arfer, mae'r rhai sy'n cael eu meddiannu gan yr ysbrydion yn gallu cael eu hadnabod oddi wrth eu llygaid coch, er y gellir atal hyn hefyd â thechnoleg Buttocks.[6]

Mae hefyd gan Pac-Man bedwar ysbryd cyfeillgar (Blinky, Pinky, Inky a Clyde) sydd wedi addo ei helpu ar hyd ei daith yn gyfnewid am gael eu hadfer i'r byd byw. Mae Pac-Man yn addo atal Betrayus a'r ysbrydion (neu unrhyw ddihirod eraill) rhag cymryd rheolaeth lwyr o Pac-World tra'n chwilio am ei rieni coll. Mae ganddo'r gallu unigryw i fwyta ysbrydion a dinistrio'r 'ectoplasm' sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o'u cyrff. Dim ond eu peli llygaid sy'n goroesi - mae Pac yn eu poeri hwy allan. Maent yn ailffurfio eu cyrff gan ddefnyddio siambr adfywio.[3] Mae'r ysbrydion yn ymosod yn barhaus ar y ddinas i ddod o hyd i'r Storfa ('Repository'), siambr storio ar gyfer cyrff corfforedig yr ysbrydion a fyddai'n eu galluogi i fyw eto pe baent yn eu meddiannu.[7] Fe'i cedwir yn gudd er mwyn eu hatal rhag y rhyddid hwn a dim ond yr Arlywydd Spheros a Pac-Man sy'n gwybod ei leoliad. Mae'r ysbrydion hefyd yn ymosod ar Goeden Bywyd ('Tree of Life') i atal Pac-Man rhag ennill pwerau i'w brwydro. Heb yr aeron pŵer ('power-berries'), ni all Pac-Man hedfan, anadlu yn yr Nether-World, na mwynhau blas ysbrydion.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cap'n Banshee and his Interstellar Buccaneers". Pac-Man and the Ghostly Adventures. 9 minutes in.

    Inky "We'd be stuck hanging with Betrayus twenty-four seven!"

    Clyde "Yeah, twenty-four seven three-sixty-five for eternity!"
  2. "41 Entertainment - Our Product". 41e.tv. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-04-07. Cyrchwyd 2013-10-14.
  3. 3.0 3.1 "Rip Van Packle". Pac-Man and the Ghostly Adventures.
  4. "All You Cat Eat". Pac-Man and the Ghostly Adventures. 10 minutes in. "PacOpolis-Wide Food Shortage" (on New Television broadcast)
  5. Pac-Man and the Ghostly Adventures. Episode 6.
  6. "New Girl in Town". Pac-Man and the Ghostly Adventures.
  7. Butt-ler. "Spooka-Bazooka!". Pac-Man and the Ghostly Adventures. "Perhaps this time you will even succeed in locating the repository, holding our corporeal bodies."