Pab Eleutherius
Oddi ar Wicipedia
Pab yn Rhufain oedd Pab Eleutherius (bu farw 189 OC). Gwasanaethodd fel pab o 175 hyd 189 ar ôl olynu'r Pab Soter (166-175). Cafodd Eleutherius ei olynu ar ôl ei farwolaeth yn 189 gan y Pab Victor I (189-199).
Brodor o Epiros, Gwlad Groeg oedd Eleutherius. Yn ôl traddodiad, Pab Eleutherius a anfonodd y seintiau Dyfan a Ffagan i Brydain yn 180 OC lle sefydlwyd sawl canolfan Gristnogol ganddynt, yn cynnwys Sain Ffagan a Merthyr Dyfan, ym Morgannwg.
