Ostraciaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ostrakon yn dwyn enw Themistocles, mab Neocles.

Ostraciaeth oedd y drefn yn Athen ddemocrataidd yn y 5ed ganrif CC o gynnal pleidlais i alltudio un neu fwy o arweinwyr y ddinas-wladwriaeth am gyfnod o ddeng mlynedd.

Ar ddiwrnod arbennig, byddai pob etholwr yn Athen yn dod i'r Agora ac yn ysgrifennu enw'r person y dymunai ef ei alltudio ar ddarn toredig o grochenewaith (ostrakon). Byddai unrhyw berson oedd yn cael mwy na 6,000 o bleidleisiau yn cael ei alltudio. Ni fyddai'n colli ei feddiannau, ac nid oedd yr ostraciaeth yn cael ei hystyried fel cosb; yn hytrach roedd yn ddull o ddatrys dadleuon gwleidyddol. Byddai pob arweinydd gwleidyddol yn Athen yn ceisio sicrhau fod ei wrthwynebwyr yn cael eu hostraceiddio. Er enghraifft, yn y cyfnod cyn ymosodiad Xerxes I, brenin Ymerodraeth Persia, ar Athen yn 480 CC, bu dadl sut y dylid amddiffyn y ddinas, trwy ganolbwyntio ar y llynges neu ar y fyddin. Llwyddodd Themistocles, oedd o blaid cryfhau'r llyngres, i sicrhau ostraceiddio Aristeides, oedd o blaid cryfhau'r fyddin.

Yn 442 CC, alltudiwyd y gwleidydd Thucydides o Athen am ddeng mlyned wedi i'w ymgais i ddisodli Pericles fethu. Daeth yr arfer i ben tua 415 CC.

Cysylltiad allanol[golygu]

Rhestr o bobl a ddioddefodd ostraciaeth