Orgreave, De Swydd Efrog

Oddi ar Wicipedia
Orgreave
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Fetropolitan Rotherham
Daearyddiaeth
SirDe Swydd Efrog
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.3701°N 1.3732°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04012115, E04012800, E04000114 Edit this on Wikidata
Cod OSSK425860 Edit this on Wikidata
Cod postS13 Edit this on Wikidata
Map

Pentref a phlwyf sifil yn Ne Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Orgreave. Fe'i lleolir ym mwrdeistref fetropolitan Rotherham. Saif ar lannau Afon Rother, tua 4.5 milltir (7 km) i'r dwyrain o ganol dinas Sheffield a phellter tebyg i'r de o ganol tref Rotherham.

Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 772.[1]

Dechreuodd cloddio am lo yn yr ardal yn 1820. Suddwyd siafft gyntaf Glofa Orgreave ym 1851. Yn yr 20g sefydlwyd Golosgfa Orgreave (Orgreave Coking Plant), a dechreuodd y lofa gyflenwi'r gwaith. Caewyd Glofa Orgreave yn 1981.

Yn ystod Streic y Glowyr 1984–5 sefydlodd aelodau o Undeb Cenedlaethol y Glowyr linell biced o amgylch yr olosgfa i atal gweithwyr a glo rhag dod i mewn neu gynhyrchion rhag gadael. Ar 18 Mehefin 1984, ar ôl dri mis a hanner o'r streic, anfonwyd nifer fawr o swyddogion Heddlu De Swydd Efrog, gan gynnwys heddlu marchogol, yn erbyn y picedwyr. Roedd trais ar raddfa fawr rhwng yr heddlu a phicedwyr, a ddaeth yn ddrwg-enwog fel "Brwydr Orgreave".[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. City Population; adalwyd 3 Rhagfyr 2022
  2. "Streic y Glowyr", BBC Cymru, 15 Ionawr 2009; adalwyd 3 Rhagfyr 2022
Eginyn erthygl sydd uchod am Dde Swydd Efrog. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato