Nodiant cerddorol
Oddi ar Wicipedia
Nodiant cerddorol yw unrhyw system sydd yn cynrychioli cerddoriaeth drwy ddefnyddio symbolau ysgrifenedig.
Daw'r cofnod cyntaf o nodiant cerddorol o tua 2000 CC yn Nippur ar garreg. Roedd nodiant Groeg hynafol yn gallu dangos traw a pharhad nodyn ac i raddau'r alaw hefyd. Defnyddiwyd y system hon o'r 6ed ganrif CC hyd at tua'r 4ydd ganrif OC Oherwydd gwaith Al-Kindi carlamodd datblygiad nodiant cerddorol yn y byd Arabaidd yn bell o flaen y Groegiaid yn yr 800au C.C gan ddatblygu'r gallu i ddangos alawon gweddol gymhleth. Dechreuodd y system nodiant rydym yn gyfarwydd â hi heddiw ddatblygu yn Ewrop yn y 9fed ganrif. Dechreuodd mynachod gofnodi nodiant emynau gyda dotiau yn mynd lan a lawr y dudalen yn ôl y traw. Nid oedd y system gynnar yn dangos rhythm ac felly ond cofweinydd i alawon a adnabyddwyd yn barod ydoedd. Yn y 14eg ganrif crëwyd y nodiant cyfoes gan y mynach Eidaleg Guido d'Arezzo.

