Nicolai Gogol
Oddi ar Wicipedia
Portread o Gogol gan Alexander Ivanov.
Nofelydd a dramodydd Rwsaidd o dras Wcranaidd oedd Nicolai Fassiliefits Gogol (Rwseg: Николай Васильевич Гоголь, Wcraineg: Микола Васильович Гоголь, Mykola Vassyliovytch Hohol) (20 Mawrth 1809 - 4 Mawrth 1852. Ei waith enwocaf yw'r nofel Eneidiau Meirwon (1842).
Ganed Gogol yn Sorotchints, Poltava, yn yr Wcrain. Symudodd i St Petersburg gyda'r bwriad o wneud gyrfa iddo'i hun mewn gweinyddiaeth. Cyhoeddodd ei waith llenyddol cyntaf, dan ffugenw, yn 1829, cerdd ramantus dan y teitl Hanz Küchelgarten, ond ni chafodd dderbyniad da.
Gweithiau [golygu]
- Taras Bul'ba (1835), nofel
- Eneidiau Meirwon (1842), nofel
- Yr Arolygydd Cyffredinol (1836), drama
- Storïau byrion, yn cynnwys Dyddiadur Gwallgofddyn, Y Trwyn ac Y Gôt Fawr (1842)