New Rope String Band

Oddi ar Wicipedia
New Rope String Band yng Ngŵyl Tegeingl. Llun gan Llinos Lanini (www.llinoslanini.com)
New Rope String Band yng Ngŵyl Tegeingl. Llun gan Ray Roberts

Pete Challoner, Tim Dalling a Jock Tyldesley yw aelodau New Rope String Band, band sy'n gweithio yn y byd gwerin. Mae eu sioe yn cynnwys elfennau mawr o gomedi a sgiliau syrcas yn ogystal â cherddoriaeth werin.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd yr Old Rope String Band yn Newcastle ym 1988 gan dri aelod band ceilidh: Joe Scurfield, Ian Carr a Pete Challoner. Gadawodd Ian Carr ar ôl dwy flynedd, ac ymunodd Tim Dalling a'r band.

Lladdwyd Joe Scurfield ar balmant yn Newcastle gan yrrwr taro a ffoi ar 8 Mehefin 2005.[2] Penderfynodd y band barhau, ond newidiwyd ei enw i "New Rope String Band". Ymunodd Jock Tyldesley o fandiau Chipolatas a Flatville Aces a Vera van Heeringen o'r Iseldiroedd.[3] Erbyn hyn, mae Jock a Vera'n byw yn Llansilin, ac mae Vera wedi gadael y band.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan Celtic Connections". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2013-05-06.
  2. ysgrif goffa Y Guardian
  3. "Gwefan villagesinaction". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-24. Cyrchwyd 2013-05-06.

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]